03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyhoeddi cylch gorchwyl ynghylch gwneud eiddo’n llai agored i’r perygl o lifogydd ac adolygu llifogydd 2020-21

YN Mai cyhoeddod Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd y byddai’r Athro Elwen Evans QC yn cynnal  adolygiad annibynnol o’r llifogydd a ddigwyddodd ledled Cymru yng ngaeaf 2020-21.

Mae’r adolygiad yn rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Dros y misoedd diwethaf, mae Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Sian Gwenllian a’r Gweinidog wedi bod yn cydweithio’n glos i ddatblygu cwmpas, dull gweithio a chylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad.

Meddai Julie James AS:

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi ein bod wedi cytuno ar y Cylch Gorchwyl terfynol. I’w weld, cliciwch yma https://llyw.cymru/adolygiad-annibynnol-o-adroddiadau-llifogydd-adran-19-cnc-cylch-gorchwyl

Mae’r Llywodraeth hon a Phlaid Cymru yn gweithio gyda’i gilydd er lles ein cymunedau i ddysgu o’r gorffennol, i newid pethau lle bo angen a datblygu arferion da. Bydd canlyniad yr adolygiad yn ein helpu i wella’r ffordd rydym yn amddiffyn rhag llifogydd i leihau’r perygl o lifogydd.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.”

%d bloggers like this: