03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyhoeddi Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022

MEWN datganiad ysgrifenedig mae Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cyhoeddi’r newidiadau i Orchymyn Cyflogau Amaethyddol.

Meddai:

“Yn gynharach y mis hwn, llofnodais Orchymyn Cyflogau Amaethyddol 2022. Mae’r Gorchymyn yn gwneud rhai newidiadau sylweddol i’r fframwaith Isafswm Cyflog Amaethyddol.

Mae’r newidiadau hyn yn seiliedig ar argymhellion Panel Cynghori Amaethyddol Cymru i symleiddio a moderneiddio’r Gorchymyn, ac maent yn cynnwys:

•strwythur graddio a disgrifiadau graddau newydd;

•newidiadau i’r cyfraddau cyflog a lwfansau isaf;

dileu’r Rhestrau cymwysterau sydd wedi dyddio a gynhwyswyd mewn Gorchmynion blaenorol;

•sefydlu llwybr dilyniant sy’n seiliedig ar gymwysterau drwy’r strwythur graddio sy’n seiliedig ar gymwysterau o fewn Fframwaith Prentisiaeth perthnasol Llywodraeth Cymru; a

•eglurhad o’r lwfans gwrthbwyso ar alwad a llety.

Daeth y Gorchymyn newydd i rym ar 22 Ebrill 2022 a chaiff ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2021. Bydd hyn yn ad-dalu’r gweithwyr amaethyddol hynny a fyddai wedi disgwyl cynnydd yn eu cyflog fesul awr o’r dyddiad hwn, fel y cynigiwyd yn ymgynghoriad y Panel yn hydref 2020. O ganlyniad, efallai y bydd angen i rai cyflogwyr wneud ôl-daliadau i rai o’u gweithwyr.

Mae gwybodaeth a chanllawiau manylach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rwyf yn ddiolchgar i’r Panel a’i Gadeirydd, Nerys Llewelyn Jones, am eu hymdrechion sylweddol i gyflwyno’r gorchymyn cyflogau newydd.”

%d bloggers like this: