03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyhoeddi rhaglen flaenllaw newydd i helpu mwy o bobl gael gwaith

MAE Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio rhaglen flaenllaw newydd gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi cymorth personol i bobl nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ar hyn o bryd i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.

Bydd y rhaglen yn cynnwys:

cynllun newydd gwerth £13.25 miliwn y flwyddyn i ddarparu cymorth wedi’i deilwra i helpu pobl i gael gwaith ledled Cymru;

bydd ReAct+ hefyd yn rhoi cymorth i gyflogwyr o ran cyflog a hyfforddiant yn ystod y flwyddyn gyntaf ar gyfer staff sydd newydd eu cyflogi;

yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i helpu mwy o bobl i gael gwaith ac aros mewn gwaith.

Wrth i farchnad lafur Cymru adfer o sioc gychwynnol Brexit a’r pandemig, mae Cymru’n gweld cyfradd diweithdra sydd bron â bod yn is nag erioed, mae rhai pobl yng Nghymru yn dal i wynebu anawsterau a rhwystrau i sicrhau gwaith.

Ac mae’r sefyllfa gymdeithasol ac economaidd bresennol yn golygu bod rhai pobl, a oedd eisoes yn profi rhwystrau o ran cyflogaeth, bellach, o dan fwy fyth o anfantais.

Er mwyn helpu i wella’r canlyniadau cyflogaeth i’r bobl hyn ac i fynd i’r afael â chyfraddau anweithgarwch economaidd cynyddol, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn dull newydd, sy’n rhoi pŵer yn ôl yn nwylo pobl, fel y gallant ddod o hyd i’r cymorth cywir drwy’r rhaglen ReAct+ newydd.

Mae ReAct+ yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen ReAct bresennol. Bydd yn helpu i rymuso pobl sy’n chwilio am waith yng Nghymru, gyda phroses ymgeisio uniongyrchol, cymorth ariannol a chyngor gyrfaoedd am ddim. Bydd yn sicrhau bod hyfforddiant hyblyg ar gael ochr yn ochr â chymorth pwrpasol i oresgyn rhwystrau i sicrhau cyflogaeth barhaus.

Bydd ReAct+ yn rhoi llwybr clir i bobl i waith cynaliadwy gan wasanaeth cyflogadwyedd Cymru’n Gweithio, ac yn helpu pobl, yn enwedig y rheini o grwpiau agored i niwed, i fanteisio ar gyfleoedd gwaith. Bydd lansio proses ymgeisio ar-lein newydd yn darparu mynediad at gymorth ariannol a’r system gymorth bwrpasol.

Wrth lansio’r rhaglen newydd yn ystod ymweliad â chanolfan Cymru’n Gweithio yng Nghasnewydd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae gennym gyfradd diweithdra sydd bron â bod yn is nag erioed yng Nghymru, ond nid ydym yn llaesu dwylo. Rydym am wneud mwy i leihau nifer yr oedolion di-waith hyd yn oed ymhellach, dileu’r bwlch mewn anweithgarwch economaidd, a helpu pawb, gan gynnwys y bobl hynny sy’n teimlo’n bell o’r farchnad lafur ar hyn o bryd, i gynllunio ac adeiladu dyfodol llwyddiannus yma yng Nghymru.

Mae grymuso pobl i gael gafael ar gyllidebau personol wedi’u teilwra, sy’n gysylltiedig â datblygu sgiliau, a dileu rhwystrau eraill i gyflogaeth yn bwysig iawn os ydym am gyflawni’r nod hwn.

Rydym yn cydnabod y gall rhwystrau i gyflogaeth fod yn amrywiol ac yn wahanol. Bydd ReAct+ yn galluogi pobl i deilwra eu cymorth cyflogaeth a bydd yr un mor unigryw â’r bobl rydym am eu helpu i gael gwaith. Bydd yn eu helpu gyda’r rhwystrau y mae angen iddynt eu goresgyn, boed hynny’n help gyda chostau gofal plant, costau teithio, mentora neu gymorth sgiliau.

Drwy ddysgu o lwyddiant raglenni blaenorol ac adeiladu arnynt, rydym yn disgwyl i ReAct+ helpu i gefnogi miloedd yn fwy o bobl ledled Cymru i gael gwaith. Mae’n elfen allweddol o’n cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau. Bydd yn ein helpu i gyflawni ein Gwarant Person Ifanc uchelgeisiol, sydd wedi’i gynllunio i sicrhau na fydd unrhyw berson ifanc yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i’r pandemig.

Rydym wedi ymrwymo i newid bywydau pobl er gwell drwy greu Cymru decach a mwy cyfartal. Bydd ReAct+ yn ein helpu i wneud hynny.”

Mae’n un o’r ymrwymiadau yng Nghynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn gynharach eleni. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar wella canlyniadau’r farchnad lafur i bobl anabl, cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, menywod a phobl â sgiliau isel.

Bydd y cymorth yn cynnwys:

hyd at £1,500 i gefnogi hyfforddiant;

hyd at £4,500 i helpu gyda gofal plant neu gostau gofal eraill;

£300 i helpu gyda chostau teithio i wneud hyfforddiant yn bosibl;

cymorth datblygiad personol o £500 i helpu i ddileu rhwystrau i waith – gan gynnwys cymorth mentora i gynyddu hyder personol a gwydnwch; a hefyd

mynediad at gymorthdaliadau cyflog i helpu pobl i gael swydd a chymorthdaliadau i gael hyfforddiant pan fyddwch mewn swydd.

Bydd cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn ReAct+ yn cael cymorth tuag at gyflogau gweithwyr newydd yn ystod y flwyddyn gyntaf, yn ogystal â chyllid ar gyfer hyfforddiant sy’n gysylltiedig â swydd.

Mae’r rhaglen newydd yn rhan bwysig o Warant Pobl Ifanc uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, sy’n dwyn ynghyd ystod eang o raglenni sydd â’r nod o ddarparu’r cymorth cywir i bobl ifanc ledled Cymru i’w helpu i gynllunio ac adeiladu dyfodol llwyddiannus.

Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn addo cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed, mewn ymgais i amddiffyn cenhedlaeth rhag effeithiau dysgu a gollwyd, ac oedi cyn cael mynediad i’r farchnad lafur, oherwydd y pandemig. Mae’n helpu hefyd i sicrhau bod Cymru’n lle y mae mwy o bobl ifanc yn teimlo’n hyderus wrth fynd ati i gynllunio eu dyfodol.

Dywedodd Nikki Lawrence, prif weithredwr gwasanaeth Cymru’n Gweithio, sy’n cael ei ddarparu gan Gyrfa Cymru:

“Fel y pwynt mynediad i unigolion gael gafael ar y rhaglen ReAct+, bydd Cymru’n Gweithio yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i gefnogi’r rhai sy’n ddi-waith neu sydd wedi colli eu swyddi, gan eu galluogi i symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy.

Gall ein harweiniad gyrfaoedd diduedd a phersonol sydd wedi’i deilwra, a’n gwasanaeth hyfforddi, gefnogi pobl Cymru, yn enwedig y rheini o grwpiau sy’n agored i niwed neu’r rhai sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth.

Mae ein cynghorwyr a’n hyfforddwyr gyrfaoedd arbenigol am helpu pobl i ddod o hyd i’r cyfleoedd gwaith sy’n iawn ar eu cyfer, a’u helpu i’w sicrhau. Edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan i gefnogi adferiad economaidd Cymru.”

.

%d bloggers like this: