04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyhoeddiad ynni yn rhoi gobaith newydd i brosiect niwclear Wylfa

MAE Strategaeth Diogelwch Ynni newydd Llywodraeth y DU wedi rhoi gobaith newydd i ddatblygu gorsaf bŵer niwclear yn Wylfa, Ynys Môn meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dylan J Williams, wedi rhoi croeso gofalus i’r strategaeth.

Bydd corff newydd o fewn y Llywodraeth, Great British Nuclear yn cael ei sefydlu ar unwaith er mwyn dod â phrosiectau newydd yn eu blaenau cyn gynted â phosib y degawd hwn, gan gynnwys safle Wylfa.

Dywedodd Mr Williams:

“Mae’n ymddangos bellach bod gwir ddyhead o fewn Llywodraeth y DU i ddod â niwclear newydd i Wylfa, fel rhan o sicrhau cymysgedd o ynni ar gyfer y dyfodol a fyddai’n lleihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil ac yn bodloni targedau sero net. Mae’n hanfodol, wrth gwrs, ein bod yn dysgu’r gwersi o’n profiadau diweddar o ddatblygu niwclear ar Ynys Môn a sicrhau eu bod yn dylanwadu cynlluniau’r dyfodol mewn ffordd bositif.”

“Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i letya gorsaf bŵer niwclear ar Ynys Môn ar yr amod ei bod yn darparu buddion trawsnewidiol hirdymor – o ran swyddi lleol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi a chyfleoedd i’n cymunedau a’n trigolion. Mae parchu cymunedau Ynys Môn, diogelu’r Gymraeg a diwylliant yr Ynys ac amddiffyn yr amgylchedd ynghyd ag ymrwymiad i ymgysylltu â’r cyhoedd hefyd yn parhau’n elfennau hanfodol.”

“Rydym yn barod i barhau i gydweithio â Llywodraeth y DU i ddatblygu a darparu’r prosiect Wylfa newydd. Yn sicr, dylid defnyddio profiad blaenorol y Cyngor o weithio ar brosiect niwclear a’n dealltwriaeth o’r ynys a’i chymunedau.”

Ychwanegodd:

“Yn dilyn gweithio gyda Pŵer Niwclear Horizon, a oedd tu ôl i’r prosiect Wylfa Newydd arfaethedig, mae gennym eisoes syniad am y buddion economaidd a chymunedol sylweddol y bydd niwclear newydd yn gallu eu darparu i gymuned. Rhaid i unrhyw ddatblygiad newydd a ddaw yn Wylfa yn y dyfodol ddod â buddion sylweddol a chymdeithasol-economaidd hirdymor i’n Hynys a’n cymunedau.”

Mae gan Ynys Môn draddodiad balch o greu pŵer, roedd yr orsaf Orsaf Niwclear Wylfa a ddatgomisisynwyd yn ddiweddar yn darparu cyflogaeth sefydlog ac o safon yn ystod y cyfnod adeiladu yn y 1960au cynnar ac wedi iddi ddod yn weithredol ym 1971.

Lansiodd y Cyngor Sir ‘Rhaglen Ynys Ynni Ynys Môn’ yn 2010. Heddiw, mae’n parhau i weld y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector yn cydweithio â’i gilydd er mwyn rhoi Ynys Môn ar flaen y gad o ran ynni carbon isel ac er mwyn creu buddion economaidd sylweddol.

Dywedodd Christian Branch, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd y Cyngor:

“Ein blaenoriaeth rŵan fydd parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, datblygwyr a rhanddeiliaid rhanbarthol posib er mwyn sicrhau bod Wylfa ym mlaen eu meddyliau.”

“Mae gan orsaf bŵer newydd yn Wylfa’r potensial i drawsnewid economi Ynys Môn, yn enwedig gogledd yr Ynys, a Gogledd Cymru yn ei chyfanrwydd. Byddai’n alluogwr sylweddol er mwyn creu swyddi cynaliadwy a chyfleoedd cadwyn cyflenwi am genedlaethau i ddod.”

“Fodd bynnag, rydym hefyd yn hynod o ystyriol o leisiau, anghenion a phryderon y pentrefi a threfi cyfagos i’r gymuned a allai letya’r prosiect a rhaid cymryd hynny i ystyriaeth lawn drwy gydol datblygiad y prosiect Wylfa.”

%d bloggers like this: