04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cylch chwarae o’r Barri yn cipio gwobr genedlaethol

MAE Cylch Chwarae West End yn y Barri, sy’n rhan o Gynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Cyngor Bro Morgannwg, wedi ennill Gwobr Blynyddoedd Cynnar Cymru.

Ar ôl gwneud gwaith i wella eu gofod awyr agored yn ystod y pan demig, roedd y grŵp yn fuddugol yn y categori ar gyfer Yr Ardal Awyr Agored Orau. Cynhelir Gwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru yn flynyddol a’u nod yw tynnu sylw at frwdfrydedd ac ymroddiad y sector gofal plant yng Nghymru.

Mae saith categori dyfarnu sy’n cydnabod rhagoriaeth o ran ymarferwyr a lleoliadau. Caiff ceisiadau eu hasesu gan banel o feirniaid arbenigol sy’n cynrychioli’r sector.

Mae Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg yn cydnabod bod gan ymarferwyr blynyddoedd cynnar y potensial i ddylanwadau ar iechyd a lles plant yn eu gofal, ac yn bwrw ati i’w hannog i greu amgylcheddau iach.

Drwy gydol y pan demig, roedd y sector gofal plant y Fro yn dal ar agor, pan fo modd, gan gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant a gwaith chwarae.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Neges amlwg drwy gydol y canllawiau oedd pwysigrwydd bod yn yr awyr agored i leihau lledaeniad Coronafeirws. Roedd Cylch Chwarae West End yn y Barri yn croesawu’r cysyniad hwn ac aeth at i ddatblygu man awyr agored deniadol i’w plant a’u staff ei fwynhau.

Yn y gorffennol, roedd tir anwastad yr ardd yn ei gwneud yn anniogel, roedd y llwyni’n golygu bod llai o le i chwarae, ac roedd cam rhwng y concrit a’r glaswellt yn beryglus.  Ers cwblhau gwaith adnewyddu, mae gan y cylch chwarae bellach le diogel, deniadol ac ysgogol yn yr awyr agored sy’n gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Mae Catherine Perry, Uwch Arbenigwr Hybu Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi bod yn arwain Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy’r Fro am saith mlynedd a hi enwebodd Cylch Chwarae West End ar gyfer ‘Yr Ardal Awyr Agored Orau’ yng Ngwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru.”Mae egni a phositifrwydd pawb yng Nghylch Chwarae West End yn anhygoel,” meddai.

“Mae’r ardal chwarae y tu allan yn wirioneddol ysbrydoledig ac mae’n cynnwys fframiau dringo a beiciau, wal ddŵr, twnnel, coed ffrwythau, mannau garddio, cegin fwd, ardal dawel a myfyriol, i gyd mewn lle bach iawn!”

Debbie Maule, Cydlynydd Partneriaeth Plant Cyngor y Fro a Chadeirydd a Chynllun Cyn-ysgol Cynaliadwy, meddai:

“Llongyfarchiadau i Gylch Chwarae West End ar eich gwobr, eich gwaith caled a’ch ymroddiad.

“Fel y soniwyd eisoes, mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn i ddarparwyr gofal plant ym Mro Morgannwg. Mae’r gofyniad cyson i newid eu harferion ar fyr rybudd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru wedi rhoi straen enfawr ar y sector.

“Gyda diolch i Catherine Perry, gwasanaethau eraill fel y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a’r tîm blynyddoedd cynnar a chwarae sydd wedi cefnogi’r sector drwyddo draw.”

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett,  Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio:

“Mae’n wych gweld gwaith caled staff Cylch Chwarae West End yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru.

“Mae eu gwydnwch drwy gydol y pan demig wedi arwain at ardd newydd gyffrous a fydd o fudd i les llawer.

“Rwy’n gobeithio bod y cyfleuster newydd yn rhoi llawer o lawenydd i’r staff, y plant a’r gymuned leol y mae’n ei gwasanaethu.”

Cafodd lleoliadau gofal plant eraill ym Mro Morgannwg eu cydnabod hefyd yn y gwobrau.  Enwebwyd Meithrinfa Teddy Bear yn Ysbyty Llandochau am y cyfleoedd awyr agored gwych y mae’n eu cynnig i blant, ac roedd Canolfan Plant Gibbonsdown yn y Barri hefyd ar y rhestr fer.

%d bloggers like this: