03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Fel y cyhoeddwyd fis diwethaf, mae Mudiad Meithrin wedi lawnsio ymgyrch godi arian ‘Cylchoedd yn Cerdded’ a fydd i’w chynnal yn ystod wythnos 7 – 14 Tachwedd.

Bydd ymgyrch Cylchoedd yn Cerdded yn cynnig gweithgaredd codi arian syml, effeithiol a diogel, trwy drefnu teithiau cerdded noddedig syml i’r plant yn y Cylchoedd (a’u teuluoedd o 9 Tachwedd ymlaen). Ar wahân i rymuso Cylchoedd i godi pres mewn modd hwyliog ac ymarferol, mae her hefyd wedi’i osod i staff y Mudiad i gerdded cyfanswm o 1971 o filltiroedd yn ystod cyfnod o 4 wythnos o 14 Hydref – 14 Tachwedd.

Dewiswyd y ffigwr penodol hwnnw i nodi’r flwyddyn sefydlwyd y Mudiad a bydd 2021 yn gweld y Mudiad yn dathlu’r garreg filltir honno o gyrraedd 50 mlynedd ers ei sefydlu. Fel mae ymdrechion yn tystio (milltir fan hyn, milltir fan draw) mae pob milltir yn cyfri’! Hyd yma (ac yn ôl yr hyn sydd wedi ei gofnodi) rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod staff Mudiad Meithrin wedi cyflawni bron i 1406 milltir – felly rydym ar y trywydd cywir i gyrraedd ein targed yn y 10 diwrnod nesaf.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin: “Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol i’n Cylchoedd mewn sawl ffordd a braf iawn yw gweld staff canolog y Mudiad yn mynd ati i gefnogi’r ymgyrch hon. Gwyddom fod gwneud ychydig o ymarfer corff yn llesol i bawb yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol yma ac mae’r mae’r buddion i iechyd meddwl ein staff yn niferus yn ogystal wrth iddynt weithio fel tîm o bell i gyrraedd y nod.”

Os hoffai unrhyw un gefnogi’r Cylchoedd, mae’r holl adnoddau ar ein gwefan wedi eu paratoi i’ch helpu i drefnu taith noddedig neu i gynnal gweithgareddau eraill sy’n berthnasol a hwyliog:

https://www.meithrin.cymru/cylchoeddyncerdded/ Neu gallwch gyfrannu i gronfa’r Mudiad drwy https://www.justgiving.com/campaign/cylchoeddyncerdded

%d bloggers like this: