04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyllid ar gael i ffermwyr a choedwigwyr ar gyfer hyfforddiant

“MAE coronafeirws wedi newid y ffordd yr ydym ni’n byw ac yn gweithio, ond nid yw hynny’n golygu na ddylem gynllunio ar gyfer y dyfodol nawr er mwyn parhau i ddysgu a gwella ein sgiliau personol a’n sgiliau busnes.”

Dyma’r neges gan Kevin Thomas, cyfarwyddwr Lantra Cymru, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar y cyd â Menter a Busnes ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae Mr Thomas yn annog pob unigolyn cymwys i gyflwyno cais am hyfforddiant yn ystod y cyfnod ymgeisio nesaf ar gyfer sgiliau a fydd ar agor rhwng 9am ddydd Llun 4 Mai hyd 5pm ddydd Gwener 26 Mehefin.

Mae ystod eang o gyrsiau achrededig, sydd ar gael i bob unigolyn sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, wedi’u hariannu hyd at 80%.

“Rydym ni’n gweithio’n agos gyda rhwydwaith darparwyr hyfforddiant Cyswllt Ffermio a’n cyrff dyfarnu – y sefydliadau sy’n gyfrifol am fonitro asesiadau ac ansawdd hyfforddiant – i adolygu pa gyrsiau hyfforddiant sy’n cael eu darparu wyneb yn wyneb fel arfer y gellir eu darparu gan ddefnyddio technoleg, yn ddigidol neu ar-lein yn ystod y cyfnod hwn o ynysu o ganlyniad i’r coronafeirws.

“Mae nifer fechan o’n darparwyr cymeradwy eisoes yn darparu cyrsiau digidol yn ymwneud â busnes ar gyfer eu cleientiaid, ond wrth i’r sefyllfa ddatblygu, byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda’r diwydiant ehangach.

“Yn amlwg, mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i ddysgwyr a darparwyr hyfforddiant fel ei gilydd, ond byddem yn annog cyflogwyr a gweithwyr i barhau i fuddsoddi mewn sgiliau a datblygiad ac i ymgeisio am gefnogaeth gyda hyfforddiant yn ystod y cyfnod ymgeisio nesaf, gan obeithio y bydd dulliau darparu arferol yn gallu ail-ddechrau cyn gynted â phosibl,” meddai Mr Thomas.

Mae hyfforddiant wyneb i wyneb yn cael ei gategoreiddio’n eang dan benawdau busnes, tir a da byw. Mae rhestr fanwl o oddeutu 80 o gyrsiau o fewn y categorïau hyn ar gael ar www.llyw.cymru/cyswlltffermio, ynghyd â rhestr o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy Cyswllt Ffermio, sydd wedi’u lleoli ledled Cymru.

Cyn gallu cyflwyno cais ar lein ar gyfer cyllid, mae’n rhaid i chi fod wedi eich cofrestru’n bersonol gyda Cyswllt Ffermio. Mae angen i chi gofrestru gyda’ch cyfeiriad e-bost unigol eich hunain. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd modd i chi gael mynediad i wefan Busnes Cymru i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) ac ymgeisio am y cwrs hyfforddiant a dewis eich darparwr hyfforddiant.

Mae cwblhau PDP a ffurflen gais yn broses fer a syml, ond mae cymorth ar gael naill ai gan eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio rhanbarthol neu eich darparwyr hyfforddiant. Ceir hefyd canllawiau ar-lein ynghyd â fideo’n dangos sut i gwblhau’r broses ar wefan Cyswllt Ffermio.

Bydd angen i ffermwyr a choedwigwyr sy’n dymuno ymgeisio am gyllid er gyfer hyfforddiant yn ystod y cyfnod ymgeisio nesaf sydd heb gofrestru gyda Cyswllt Ffermio hyd yma gysylltu gyda Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 i gofrestru cyn 5pm dydd Llun 22 Mehefin 2020.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r hyfforddiant ac wedi ei hawlio, bydd copi o’ch tystysgrif yn cael ei uwch lwytho i’ch cofnod diogel a phersonol ar y Storfa Sgiliau ar-lein. Bydd unrhyw wasanaethau, gweithdai a chymorthfeydd sydd yn dal i fod ar gael i chi drwy Cyswllt Ffermio hefyd yn cael eu llwytho ar y system ar eich rhan.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch ynglŷn â hyfforddiant Cyswllt Ffermio a’r holl wasanaethau ar-lein sydd ar gael yn ystod y cyfnod presennol, gan gynnwys y Storfa Sgiliau, cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio rhanbarthol neu ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Fel arall, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

%d bloggers like this: