03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyllid i ddiogelu cartrefi Sili rhag llifogydd

BYDD dau eiddo ar hugain yn Sili yn cael gwaith amddiffyn rhag llifogydd ar ol i Gyngor Y Fro sicrhau bron £150k o gyllid gan Lywodraeth Cymru,

Effeithiwyd ar y rhan fwyaf o’r cartrefi gan y llifogydd a darodd rannau o dde Cymru ychydig cyn y Nadolig, ac mae nifer o rai eraill wedi eu nodi fel cartrefi sy’n wynebu risg o ddioddef difrod tebyg yn y dyfodol.

Mae pedwar eiddo ar Conybeare Road, ac mae’r gweddill ar Winsford Rd, Highbridge Close, Swanbridge Grove a Swanbridge Road.

Bydd contractwyr arbenigol yn cynnal arolygon ar yr eiddo perthnasol dros yr haf a bydd y gwaith amddiffyn rhag llifogydd sy’n deillio o hynny yn cael ei gwblhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol.

Caiff llifddorau eu gosod ynghyd ag amrywiaeth o fesurau ffisegol eraill i atal dŵr llifogydd rhag dod i mewn ar sail canlyniadau’r arolygon.

Mae ymchwiliadau manwl yn parhau mewn perthynas ag achosion y llifogydd ac unrhyw fesurau posibl y gellid eu cyflwyno i leihau’r risg o lifogydd yn yr ardal gyffredinol yn y dyfodol.

Yn y tymor byrrach, bydd y gwaith hwn yn rhoi lefel ychwanegol o ddiogelwch rhag y risg o lifogydd mewn eiddo yn y dyfodol a gobeithio y rhydd fwy o sicrwydd i’r rhai sy’n wynebu risg o lifogydd.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Ward Cyngor Bro Morgannwg dros Sili:

“Parodd llifogydd eiddo yn Sili ddiwedd y llynedd drawma difrifol i’r bobl yr effeithiodd arnynt.

“Mae gweld eich cartref yn cael ei foddi dan ddŵr a’r difrod mae hynny’n ei achosi yn peri gofid mawr ac rwy’n cydymdeimlo’n daer â’r rhai a ddioddefodd.”

Meddai y Cynghorydd Kevin Mahoney, Aelod Ward Cyngor Bro Morgannwg dros Sili:

“Fel Cyngor, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni ei wneud i leihau’r risg y bydd rhywbeth mor ofnadwy’n digwydd eto.

“Rwy’n hapus iawn ein bod wedi gallu sicrhau’r cyllid hwn. Mae’n swm sylweddol a fydd yn mynd tuag at osod amddiffynfeydd pwysig a ddylai ddiogelu’r cartrefi hyn yn y dyfodol.”

%d bloggers like this: