04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyllid i edrych ar adnoddau ynni dŵr ym Mlaenau Gwent

MAE Cyngor Blaenau Gwent wedi comisiynu astudiaeth ddichonolrwydd i edrych ar hyfywedd ynni dŵr o fewn cymunedau Llanhiledd a Cwm.

Dyfarnwyd cyllid o £20,000 gan Grŵp Gweithredu Lleol Cwm a Mynydd. Derbyniodd y Grŵp Gweithredu Lleol gyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a gyllidir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau ar draws ardaloedd gwledig Blaenau Gwent a Chaerffili.

Bydd y Cyngor yn gweithio gyda chontractwr arbenigol i benderfynu sut y gellir cynhyrchu ynni adnewyddadwy a defnyddio ynni dŵr micro.

Bydd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar ymchwilio’r adnoddau naturiol sydd ar gael yn Cwm a Llanhiledd.

Bydd yn ymchwilio cyfleoedd yn defnyddio llif dŵr o’r afon i gynhyrchu ynni a fedrai gefnogi cymunedau lleol gyda phŵer adnewyddadwy.

Bydd cymunedau yn cael budd uniongyrchol drwy ostwng costau ynni a bydd y cynllun yn cefnogi adeiladu cymunedau carbon isel fel rhan o bontio i ddyfodol dim carbon a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae’r Cyngor yn falch iawn i ymchwilio opsiynau mewn adnoddau adnewyddadwy fel rhan o’r Prosbectws Ynni a gafodd ei fabwysiadu’n ddiweddar. Rydym yn ymroddedig i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ac mae’n hanfodol ein bod yn ymchwilio pob opsiwn i symud at ynni llawer gwyrddach.

“Gobeithiwn yn fawr iawn y bydd yr astudiaeth dichonolrwydd yn arwain at ganlyniad cadarnhaol. Rhoddir adroddiad i’r Cyngor ar y canfyddiadau a byddwn yn ymgysylltu gyda rhanddeiliaid i drafod datblygu ynni adnewyddadwy a’r buddion a ddaw i gymunedau.”

 

%d bloggers like this: