04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyllideb a chynllun adfer i dorri tir newydd i’w ystyried

MAE’N debygol y bydd rhewi treth y cyngor, ynghyd â sawl cynnig arall a gynlluniwyd i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, ac i helpu’r fwrdeistref sirol i adfer, ar y gweill ar gyfer preswylwyr Castell-nedd Port Talbot y flwyddyn nesaf. Mae cynghorwyr ar fin ystyried yr hyn sy’n cael ei disgrifio fel cyllideb fydd yn torri tir newydd wythnos nesaf.

Ymddengys y bydd gwasanaethau hanfodol sy’n cefnogi preswylwyr, sefydliadau a busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot yn elwa gymaint â miliynau o bunnoedd mewn arian ychwanegol pan fydd cynghorwyr yn ystyried cyllideb refeniw a chynllun corfforaethol nodedig wythnos nesaf.

Os bydd yn cael ei gymeradwyo, bydd gwariant net ar wasanaethau ar draws gofal cymdeithasol, addysgu, yr amgylchedd, cyllid a gwasanaethau corfforaethol yn cynyddu gan fwy na £14m yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Ymhellach, gellid clustnodi £2.8m ar gyfer buddsoddiadau untro i roi hwb cychwynnol o ‘Adfer, Ailosod, Adnewyddu’, cynllun corfforaethol y cyngor, ac i ymateb i broblemau y mae pobl yn y fwrdeistref sirol yn dweud sy’n cyfri fwyaf iddyn nhw.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae’r buddsoddiad ychwanegol yn bosib oherwydd setliad cyllideb iach iawn oddi wrth Lywodraeth Cymru a chefnogaeth ariannol ar gyfer yr ymateb parhaus i’r pandemig, ynghyd â rheoli ariannol darbodus. Y nod yw cyflymu adferiad y fwrdeistref sirol ar ôl pandemig Covid a blynyddoedd o gyni dan law Llywodraeth y DU.

Yn ôl y Cynghorydd Ted Latham, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:

“Ers haf diwethaf, drwy gyfrwng ein hymgyrch ‘Gawn Ni Siarad’, rydyn ni wedi bod yn siarad â phobl am effaith y pandemig ac am y pethau sy’n cyfri iddyn nhw nawr ac i’r dyfodol. Mae hyn wedi rhoi ffurf ar ein cynllun corfforaethol ac wedi addysgu ein cyllideb arfaethedig.

“Mae’r cynnydd diweddar mewn costau byw, a wnaed yn waeth gan wasgfeydd Covid-19, wedi peri fod y blynyddoedd diwethaf hyn wedi bod yn arbennig o anodd i bobl, a dyna pam fod clustnodi rhywfaint o’r cyllid ychwanegol sydd ar gael i ni yn y flwyddyn nesaf er mwyn gallu rhewi treth y cyngor yn flaenoriaeth.”
Bydd y Cabinet yn cwrdd ddydd Llun 28 Chwefror i drafod y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod, ac i drafod y cynllun corfforaethol.

Ymysg penawdau’r gyllideb mae:

Rhewi treth y cyngor er mwyn ei gadw ar lefelau 2021-22;
£6.364m yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol gan fynd â’r gyllideb i dros £95.5m;
Cynnydd o £4.2m ar gyfer addysgu ein plant a’n pobl ifanc, gan fynd â’r gyllideb i dros £125m;
£1.8m yn ychwanegol ar gyfer Amgylchedd, gan fynd â gwariant cyffredinol i £43.8m; a hefyd
Cynnydd o £5m i’r rhaglen gyfalaf er mwyn dechrau gwneud gwelliannau ar draws cymdogaethau.

Amlinellir pedair blaenoriaeth yn y cynllun corfforaethol drafft –

Dylai pob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd; mae cymunedau’n ffynnu ac yn gynaliadwy; gall ein hamgylchedd, diwylliant a threftadaeth leol gael eu mwynhau gan genedlaethau’r dyfodol; a swyddi a sgiliau.

Mae’r gyllideb ddrafft hefyd yn cynnwys £2.8m ar gyfer buddsoddiadau untro i gefnogi’r blaenoriaethau hyn ac adfer ar ôl Covid, gan gynnwys:

£700k i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc – mae hyn yn cynnwys ymestyn gwasanaethau ieuenctid yn sylweddol er mwy ymateb yn uniongyrchol i’r hyn ddywedodd plant a phobl ifanc oedd yn bwysig iddyn nhw yn y sgwrs ‘Gawn Ni Siarad’;
£1.5m i gyflwyno ystod o brosiectau ledled y fwrdeistref sirol er mwyn ‘gwella, glanhau a glasu’ ein cymunedau; a
£200k i ddatblygu strategaethau diwylliant a’r amgylchedd, a hamdden a thwristiaeth, a chefnogaeth ychwanegol ar gyfer swyddi a sgiliau.  

Aeth y Cynghorydd Ted Latham, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ei flaen i ddweud:

“Drwy gydol y pandemig, gweithiodd y cyngor hwn yn galed gyda’n partneriaid i gefnogi ein preswylwyr a’n cymuned fusnes.

“Cefnogodd ein gwasanaeth ‘Diogel ac Iach’ dros 2,600 o bobl oedd yn methu â galw ar ffrindiau neu deulu, fe wnaethon ni dros 6,000 o alwadau llesiant i breswylwyr, hwyluso dros £90m o grantiau a chymorth i fusnesau a darparu dros 10,000 o ddyfeisiadau digidol i athrawon a myfyrwyr er mwyn i’n plant a’n pobl ifanc allu dal ati i ddysgu.

“Bydd y gefnogaeth hon yn parhau drwy gyfrwng ein cynllun corfforaethol, sy’n rhoi sail i ni ddatblygu ymhellach yr ysbryd cydweithredol yna i greu lle ble gall pawb fyw bywyd da.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Carol Clement-Williams, Aelod Cabinet dros Gyllid:

“Ar gyfradd o 8.8%, ein setliad amodol oddi wrth Lywodraeth Cymru yw’r gorau ers dros ddegawd ac o’r diwedd, mae’n rhoi lle i ni ddechrau mynd i’r afael unwaith eto â rhywfaint o’r caledi a ddaeth yn sgil blynyddoedd o gyni ar gorn Llywodraeth y DU ac a wnaed yn waeth gan y pandemig. Rwy’n falch mai ni oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ddatgan ein huchelgais i rewi treth y cyngor er mwyn helpu i leihau’r baich ar deuluoedd.

“Yn ychwanegol, gwnaeth y Cabinet benderfyniad arloesol yn ddiweddar i ddod â gwasanaethau hamdden yn ôl o dan reolaeth y cyngor. Bydd hyn yn cefnogi ein cynllun corfforaethol drwy ddarparu sicrwydd swyddi i staff hamdden a’n galluogi ni i barhau i gefnogi llawer mwy o bobl i fyw bywydau iachach.
“Bydd clustnodi dros £125m i’n cyllideb addysg yn ymestyn ein hymrwymiad i roi’r dechrau posib mewn bywyd i blant ac yn galluogi ein hysgolion i barhau â’u gwaith rhagorol.

“Cafodd yr heriau diweddar a wynebwyd gan y sector gofal cymdeithasol eu cofnodi’n drylwyr a bydd y buddsoddiad ychwanegol yn helpu i atgyfnerthu ein gallu i ddarparu gofal, cefnogaeth a gwarchod ein hoedolion, plant a theuluoedd bregus.
“Gwyddom fod yr amgylchedd, a chael cymdogaethau a chanol trefi glân, bywiog, diogel a gynhelir yn dda, yn bwysig i’n preswylwyr ac i fusnesau, a bydd yr £1.8m ychwanegol ar gyfer Amgylchedd yn ein helpu i gryfhau gwasanaethau gan gynnwys sbwriel ac ailgylchu, cynnal a chadw priffyrdd a chefnogi busnes.

‘Yn y pen draw mae cyllideb arfaethedig 2022-23 yn gyfwerth â dros £450m o fuddsoddiad mewn gwasanaethau sy’n cefnogi pobl Castell-nedd Port Talbot yn eu bywydau bob dydd.”

%d bloggers like this: