04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE cynghorwyr Gwynedd wedi gosod eu cyllideb flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 sy’n cynnwys cyfuniad o fesurau i warchod gwasanaethau lleol hanfodol a buddsoddiad mewn meysydd allweddol.

Er gwaethaf pwysau ariannol sylweddol oherwydd Covid-19 a chostau chwyddiant uchel, mae rheolaeth ariannol gadarn dros nifer o flynyddoedd yn golygu bod y Cyngor wedi gallu osgoi cyflwyno toriadau newydd i wasanaethau ar gyfer 2022/23, ac wedi gallu gwneud i ffwrdd neu oedi tua 75% o’r toriadau oedd wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Yn ei gyfanrwydd, bydd cyllideb Cyngor Gwynedd ar gyfer 2022/23 yn £295 miliwn, gyda £213 miliwn yn dod gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant, a’r £82 miliwn sy’n weddill yn cael ei godi’n lleol drwy’r Treth Cyngor.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Ioan Thomas:

“Mae setliad ariannol Llywodraeth Cymru eleni yn decach nag y bu ers blynyddoedd lawer. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod yn rhaid i’r Cyngor ymgodymu â nifer o ffactorau sy’n cynyddu’r pwysau ar ein cyllideb.

“Mae’r rhain yn cynnwys y gyfradd chwyddiant uchaf ers nifer o flynyddoedd, a’r angen i barhau i wario symiau sylweddol ar ein hymateb sy’n parhau i Covid-19, yn enwedig pan ddaw cyllid brys y llywodraeth i ben ddiwedd y mis hwn.

“Trwy gynllunio gofalus rydym wedi gallu cyfyngu’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor eleni i 2.95%, sy’n cyfateb i gynnydd wythnosol o 84c ar gyfer cartref Band D.

“Rydym yn llwyr werthfawrogi fod hwn yn gyfnod anodd i lawer o gartrefi, a byddem yn annog unrhyw un sy’n cael trafferth talu Treth Cyngor i ymweld â’n gwefan i weld a ydynt yn gymwys am ostyngiad Treth Cyngor neu unrhyw gymorth ariannol arall.”

Fel rhan o’r strategaeth ariannol ar gyfer 2022/23, cytunodd y Cyngor Llawn i fuddsoddi mewn nifer o feysydd yn dilyn adborth a dderbyniwyd gan gynghorwyr, cynghorau tref a chymuned a thrigolion lleol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

Cyflwyno Timau Tacluso ‘Ardal Ni’ newydd fel rhan o gynllun Cymunedau Glân a Thaclus y Cyngor. Mewn ymateb i flaenoriaethau lleol, bydd y timau ymateb cyflym newydd hyn yn mynd i’r afael â phroblemau fel tipio anghyfreithlon, graffiti, a blerwch cyffredinol mewn cymunedau;

Dileu ffioedd teithio addysg ôl-16 fel na fydd yn rhaid i fyfyrwyr 16 i 25 oed dalu ffi flynyddol o £300 i deithio i goleg neu ysgol o fis Medi 2022;

Cyflogi staff newydd i fynd i’r afael â phroblemau baw cŵn; a

£3 miliwn i gyflawni Cynllun Newid Hinsawdd y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cerbydau casglu gwastraff trydan, gwneud adeiladau cyhoeddus yn ynni-effeithlon a hyrwyddo bioamrywiaeth.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:

“Er fod y sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn anodd, rwy’n falch o’r ffaith ein bod eleni wedi gallu buddsoddi mewn nifer o fentrau newydd i wella gwasanaethau i bobl Gwynedd.

“Mewn ymateb i’r argyfwng newid hinsawdd, rydym yn cynyddu ein buddsoddiad yn sylweddol i leihau ôl-troed carbon y Cyngor ymhellach.

“Mae pobl leol yn dweud wrthym yn aml fod angen gwneud mwy i gadw trefi a phentrefi yn lân a thaclus. Rydym wedi gwrando, a byddwn yn cyflwyno timau newydd a fydd yn gweithio gyda chymunedau i fynd i’r afael â’u blaenoriaethau amgylcheddol lleol.

“Er mwyn helpu cymaint o bobl ifanc â phosib i gael mynediad i addysg ôl-16, o fis Medi ymlaen byddwn yn cael gwared ar y ffi cludiant o £300 y mae pobl ifanc 16 i 25 oed yn ei dalu ar hyn o bryd i gyrraedd ysgol neu goleg.

“Rwy’n hyderus y bydd y rhain a’r mesurau rhagweithiol eraill y cytunwyd arnynt gan y Cyngor Llawn yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl leol, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cael eu cyflawni dros y misoedd nesaf.”

 

%d bloggers like this: