04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyllideb yn buddsoddi mewn gwasanaethau ar ôl blynyddoedd o doriadau

BYDD Cyllideb Ynys Môn ar gyfer 2022/23 yn helpu i ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol sydd wedi cael eu taro gwaethaf gan y pandemig Covid-19 a blynyddoedd lawer o fesurau llymder.

Dydd Iau, 10 Mawrth, cefnogodd Aelodau’r Cyngor Llawn gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn sgil derbyn gwell setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd hyn yn cynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau plant, technoleg gwybodaeth yn ein hysgolion, taclo digartrefedd a helpu’r economi leol.

Mae’r Gyllideb refeniw derfynol o £158.367m yn cynnwys cynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor, sef y cynnydd lleiaf yng Ngogledd Cymru ac ymhlith y lleiaf yng Nghymru.

Cadarnhaodd y Cyngor Llawn hefyd y bydd Premiwm y Dreth Gyngor ar ail gartrefi yn codi i 50% tra bydd y premiwm ar gartrefi gwag yn parhau i fod yn 100%.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Eglurodd y deilydd portffolio Cyllid, y Cynghorydd Robin Williams:

“Ers 2013/14, rydym wedi cael ein gorfodi i wneud £25m o doriadau mewn gwasanaethau. Ar ôl blynyddoedd o lymder, byddwn yn gallu ail-fuddsoddi yn awr mewn meysydd gwasanaeth allweddol i ymateb i bwysau ychwanegol, gyda rhai ohonynt yn gysylltiedig â’r pandemig Covid-19.”

Ychwanegodd:

“Wrth gwrs, rydym yn ymwybodol iawn bod y pandemig wedi achosi caledi ariannol i nifer o gartrefi a busnesau ar Ynys Môn. Rydym wedi ceisio cadw’r Dreth Gyngor mor isel â phosib a bydd codiad o 2% yn golygu cynnydd wythnosol o 52c ar y bil Band D cyfartalog.”

Yn ogystal â buddsoddi i fynd i’r afael â heriau a risgiau gwasanaeth, bydd cynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor hefyd yn helpu i ariannu chwyddiant, adnoddau ychwanegol i gynnal systemau a chwrdd â’r cynnydd a ragwelir mewn costau blynyddol.

Diolchodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, i’r cyhoedd am gyfrannu at y broses ymgynghori ar y Gyllideb, yn ogystal ag aelodau pwyllgorau sgriwtini’r Cyngor am eu cyfraniad i’r broses gosod Cyllideb.

Dywedodd y Cyng Medi:

“Mae’r holl wasanaethau yr ydym yn eu darparu wedi cael eu heffeithio gan bron i 10 mlynedd o doriadau parhaus. Mae’r pandemig wedi rhoi pwysau anferthol ar nifer o wasanaethau allweddol hefyd. Wrth i ni symud yn awr i’r cyfnod adfer, bydd y Gyllideb hon yn caniatáu i ni ail-fuddsoddi mewn nifer o wasanaethau cyhoeddus hanfodol sydd wedi cael eu taro gwaethaf gan y pandemig.”

Bydd y Gyllideb gyfalaf derfynol yn canolbwyntio ar waith cynnal a chadw hanfodol a bydd £2m yn cael ei ddyrannu ar gyfer gwella’r ffyrdd; £480k ar doiledau cyhoeddus, £400k ar seilwaith morwrol o amgylch ein harfordir a £100k ar gyfarpar ffitrwydd newydd yng Nghanolfan Hamdden David Hughes ym Mhorthaethwy. Bydd y Gyllideb hefyd yn parhau i fuddsoddi yn asedau presennol y Cyngor, yn cynnwys ysgolion, adeiladau eraill a cherbydau fflyd.

 

%d bloggers like this: