03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymeradwyo symud ymlaen gydag Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Nhredegar

MAE Pwyllgor Gweithredol Cyngor Blaenau Gwent wedi cymeradwyo ysgol gynradd Gymraeg newydd yn cynnwys darpariaeth gofal plant yn Nhredegar/Cwm Sirhywi.

Byddai’r ysgol newydd yn dechrau fel ‘darpariaeth egin’ gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn ac yn tyfu i gynnig darpariaeth ar gyfer pob blwyddyn erbyn 2029. Fel rhan o’r ymgynghoriad cysylltodd y Cyngor gyda chyrff llywodraethu, staff ysgol, plant a phobl ifanc, rhieni a phreswylwyr i gasglu sylwadau.

Cynhaliwyd ymgynghoriad, gyda’r holl brif randdeiliaid, yn gynharach eleni ar gynnig i ddatblygu ysgol ‘egin’ cyfrwng Cymraeg gyda 210 lle gyda gofal plant yn yr un safle, yn Chartist Way.

Dangosodd yr ymgynghoriad fod cefnogaeth gref i ysgol Gymraeg newydd gan y rhai a gymerodd rhan.

Caiff yr ysgol newydd a’r ddarpariaeth gofal plant ar yr un safle eu datblygu yn unol â safonau Ysgolion yr 21ain Ganrif, yn amodol ar brosesau cynllunio (ymgynghoriad a chymeradwyaeth). Mae’r Cyngor wedi sicrhau £6.2 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer yr adeilad drwy gynlluniau Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.

Bydd yr ysgol yn galluogi’r Cyngor i ateb y galw cynyddol am leoedd gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

Dywedodd Lynn Phillips, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y Cyngor:

“Mae dymuniad cryf i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a’r cyfleoedd am addysg Gymraeg, ac yn wir rydym yn gweld galw cynyddol am leoedd ysgol a darpariaeth blynyddoedd cynnar yn lleol.

“Bydd yr ysgol newydd hon gyda gofal plant ar yr un safle yn rhoi mwy o opsiynau i rieni pan fyddant yn dewis llwybr addysg ar gyfer eu plant, felly rwy’n falch fod y Pwyllgor Gweithredol wedi cydnabod hyn heddiw fel cam pwysig wrth gynyddu darpariaeth yma ym Mlaenau Gwent a rhoi mwy o ddewis i rieni.”

 

%d bloggers like this: