04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymorth ar gael i breswylwyr gyda trafferth talu eu biliau

MAE preswylwyr sy’n cael trafferth talu eu biliau Treth y Cyngor neu daliadau eraill yn ystod y pandemig yn cael eu hannog i ofyn am gymorth cyn gynted ag y gallant.

Ers dechrau’r pandemig, mae Cyngor Abertawe wedi bod yn flaenllaw wrth gefnogi pobl a busnesau lleol drwy dalu gwerth miliynau o bunnoedd o grantiau iddynt dros y 10 mis diwethaf.

Mae’r cyngor yn ysgrifennu at breswylwyr y mae’n ymwybodol eu bod eisoes yn cael trafferth talu i’w hannog i weithio gyda’r cyngor i ddatrys y broblem. Yn ogystal ag egluro faint o ddyled sydd ganddynt, mae’r llythyr hefyd yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael.

Efallai hefyd y bydd rhai deiliaid tai ar incwm isel yn gymwys ar gyfer help drwy’r cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor i’w helpu i leihau’r swm cyffredinol y mae’n rhaid iddynt dalu.

Yn ogystal, mae’r llythyrau’n cynnig syniadau ar sut i gael gafael ar gyngor annibynnol ar reoli dyled neu broblemau ariannol.

Os oes angen cefnogaeth ar bobol gyda phroblemau dyled, cysylltwch yma:https://www.abertawe.gov.uk/botwmpanigdyled

Os ydy preswylwyr am drafod eich taliadau Treth y Cyngor, fedrant gysylltu â’r tîm yma.https://www.abertawe.gov.uk/trethycyngor

Mae cannoedd o ddeiliad tai cymwys hefyd wedi gallu cael gafael ar daliadau gan Lywodraeth Cymru drwy’r cyngor pan ofynnwyd iddynt hunanynysu gan y gwasanaeth monitro ac olrhain.

Ond dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, y bydd rhai pobl yn cael trafferth talu eu biliau, gan gynnwys Treth y Cyngor, oherwydd y pandemig.

Meddai:

“Rydym yma i’r bobl hynny hefyd. Mae gennym dîm cefnogi penodol o arbenigwyr Treth y Cyngor sy’n gallu helpu preswylwyr i leihau eu biliau Treth y Cyngor.

“Mae hefyd amrywiaeth o asiantaethau eraill yn Abertawe fel Cyngor ar Bopeth sy’n gallu helpu pobl sy’n wynebu argyfwng dyled oherwydd y pandemig.

“Ein neges i unrhyw un sy’n wynebu problemau wrth dalu eu Treth y Cyngor yw i gysylltu â ni nawr. Efallai y gallwn eich helpu i wasgaru – neu hyd yn oed dorri – cost eich Treth y Cyngor.”

Mae llythyrau’n cael eu hanfon at ddeiliad tai y mis hwn sydd ar ei hôl hi gyda’u Treth y Cyngor i’w hannog i weithio gyda’r cyngor i ddatrys y broblem.

Mae’r cyngor yn codi tua £130m y flwyddyn mewn Treth y Cyngor. Caiff yr arian ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau’r cyngor, y mae llawer ohonynt wedi bod yn gwbl hanfodol wrth gadw pobl yn ddiogel, amddiffyn y GIG ac arbed bywydau yn ystod y pandemig.

Meddai’r Cyng. Stewart, “Mae pob un ohonom wedi gweld y gwaith rhyfeddol y mae ein gweithwyr gofal cymdeithasol wedi’i wneud mewn cartrefi gofal. Ar ben hynny, yn ystod y pandemig mae ein staff wedi cefnogi’r rheini sy’n gwarchod, wedi trefnu rhwydwaith o filoedd o wirfoddolwyr i ofalu am y diamddiffyn ac wedi gofalu am blant gweithwyr allweddol fel nyrsys a meddygon fel y gallant fynd i’r gwaith.

“Mae ein timau’n helpu i gynnal y gwasanaeth monitro ac olrhain a phrynu deunyddiau PPE hanfodol ar gyfer cartrefi gofal a’n staff, ac fe drefnon ni’r gwaith o godi ysbyty maes y Bae sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel canolfan i roi miloedd o frechiadau.”

Meddai, “Ar ben hynny, rydym wedi parhau â’r gwasanaethau cyngor rheolaidd hefyd fel casgliadau gwastraff ac ailgylchu ymyl y ffordd, atgyweirio priffyrdd a chefnogi addysg plant gartref yn ogystal ag yn yr ysgol.”

“Yr arian a gawn o Dreth y Cyngor sy’n helpu i wneud hyn oll yn bosib. Dyna pam ei fod yn bwysig eich bod yn parhau i dalu’n Treth y Cyngor.

“Os ydych yn ei chael hi’n anodd talu, byddem yn eich annog i gysylltu â ni oherwydd mae’n bosib y gallwn ysgafnhau’r baich. Mae hi nawr yn bwysicach nag erioed i ni ddod ynghyd i gefnogi’n gilydd.  Dyna pam rydym yn cynnig cyngor a chefnogaeth ychwanegol ac ar gael i helpu lle y gallwn.”

 

%d bloggers like this: