03/27/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymorth ariannol gydol oes i oroeswyr Thalidomide yng Nghymru

MAE’R Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi cyhoeddi heddiw (29 Medi) y rhoddir sicrwydd o gymorth ariannol gydol oes i’r rheini sydd wedi’u heffeithio gan y cyffur Thalidomide yng Nghymru.

Daw’r cytundeb deng mlynedd presennol ar gyfer Grant Iechyd yr Ymddiriedolaeth Thalidomide i ben ym mis Mawrth 2023.

Roedd Thalidomide yn gyffur a ddefnyddiwyd yn aml i drin salwch y bore mewn menywod beichiog rhwng 1958 a 1961. Cafodd ei dynnu oddi ar y farchnad ym mis Rhagfyr 1961 pan ganfuwyd ei fod wedi achosi namau geni difrifol mewn babanod a anwyd i fenywod a gymerodd y cyffur yn ystod eu beichiogrwydd.

Mae oddeutu 30 o oroeswyr Thalidomide yng Nghymru yn cael y Grant Iechyd, gyda llawer ohonynt bellach yn 60 oed neu’n hŷn.

Mae’r Thalidomide Trust yn goruchwylio dosbarthiad y Grant Iechyd i oroeswyr Thalidomide sy’n defnyddio’r arian ar gyfer ystod eang o ddibenion iechyd. Mae’r rhain yn cynnwys costau sy’n gysylltiedig â rheoli poen, cymorth personol a gofal personol, symudedd ac annibyniaeth a mynediad at ymyriadau gofal iechyd.

Mae’r Grant Iechyd yn galluogi’r buddiolwyr i bersonoli’r modd y maent yn gwario eu Grant Iechyd, yn seiliedig ar eu hanghenion a’u dewisiadau unigol.

Ers 2013 mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £8m i’r Ymddiriedolaeth Thalidomide i gefnogi goroeswyr. Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw cytunwyd ar adolygiadau cyllid rheolaidd yn y dyfodol gyda’r Ymddiriedolaeth a fydd yn sicrhau bod anghenion goroeswyr yn parhau i gael eu diwallu.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Rwy’n gobeithio y bydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi sicrwydd i oroeswyr Thalidomide y bydd cymorth ariannol parhaus ar gael iddyn nhw. Mae darparu cymorth gyda’u hanghenion iechyd parhaus a’u hanghenion iechyd yn y dyfodol yn eu galluogi i fod yn annibynnol a sicrhau eu llesiant cyn hired â phosibl. Hoffwn ddiolch i’r Ymddiriedolaeth Thalidomide am eu gwaith o ran helpu i oruchwylio’r grant a rhoi cymorth hanfodol i oroeswyr Thalidomide.

Ychwanegodd Deborah Jack, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Ymddiriedolaeth Thalidomide:

“Mae’r rhan fwyaf o’n buddiolwyr nawr yn eu 60au ac mae’r blynyddoedd o ddefnyddio eu cyrff mewn ffyrdd na fwriadwyd wedi cael effaith fawr. Mae bron pob un ohonynt yn byw mewn poen cyson ac mae gan y rhan fwyaf ohonynt broblemau iechyd lluosog bellach. Mae cost eu hanghenion cymhleth yn sylweddol ac yn cynyddu. Mae llawer ohonynt wedi bod yn bryderus iawn am y posibilrwydd y bydd y cyllid mawr ei angen hwn yn dod i ben, felly mae’r newyddion hwn i’w groesawu.

“Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn drwy ymrwymo i roi cymorth ariannol gydol oes i’n buddiolwyr, a chytuno i adolygu’r lefel cyllid yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn bodloni eu hanghenion newidiol.”

Meddai Gill T, 62,  yn y Gogledd, a gafodd ei geni gyda breichiau byr a niwed i’w choes dde oherwydd i’w mam gymryd Thalidomide yn ystod ei beichiogrwydd:

“Mae hyn yn newyddion gwych. Mae’r Grant Iechyd wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i’m mywyd i ac wedi fy helpu i gadw fy annibyniaeth.

Yn y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi defnyddio’r arian a gefais i dalu am fan wedi’i addasu sydd â lle ar gyfer fy nghadair olwyn, giât a drws garej trydan a llenni trydan, ramp y tu allan i’r drws cefn a thoiled sy’n golchi ei hun.

Rwy’n berson prysur iawn ac rwyf hefyd yn defnyddio’r Grant Iechyd i dalu i rywun ddod gyda mi pan fyddaf yn mynd allan – i siopa, i ymweld â chanolfannau garddio, i gwrdd â theulu a ffrindiau am ginio neu i wneud gwaith gwirfoddol. Mae cael gwybod y bydd y cyllid hwn yn parhau gydol oes wedi mynd â baich oddi ar fy meddwl.”

%d bloggers like this: