03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymorth ariannol rhoi hwb i fusnesau twristiaeth Abertawe

MAE nifer o fusnesau llety i ymwelwyr yn Abertawe yn elwa o gyllid i wella’u cyfleusterau wrth i dymhorau pwysig y gwanwyn a’r haf nesáu.

Mae’r cyllid, sy’n rhan o gronfa adferiad economaidd £25m Cyngor Abertawe, yn rhan o becyn o fesurau sydd â’r nod o gefnogi sector twristiaeth y ddinas drwy 2022 a thu hwnt.

Ymysg y busnesau sydd wedi elwa o’r gronfa cymorth twristiaeth yw bythynnod Dyffryn Clun, lle mae Bwthyn y Ceidwad a’r bwthyn cyfagos,  Barn Owl Cottage wedi cael eu hailwampio.

Mae’r cyllid hefyd wedi helpu Fferm Tir Cethin yn y Crwys i brynu a gosod tybiau twym arddull Sgandinafaidd i’w gwesteion eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn.

Mae prosiectau llwyddiannus eraill a gefnogwyd gan y gronfa hon yn cynnwys gwelliannau hygyrchedd i ymwelwyr anabl ac uwchraddio cyfleusterau i ddenu cwsmeriaid y tu fas i dymor prysur yr haf.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae cymorth pellach gan y cyngor ar gyfer y sector twristiaeth yn cynnwys fideos ar-alw sy’n arddangos Bae Abertawe, sydd ar gael  drwy AdSmart Sky TV. Mae’r fideos, sydd ar gael i’w gweld tan ganol mis Ebrill, yn rhan o ymgyrch farchnata Bae Abertawe ar gyfer y gwanwyn, a fydd hefyd yn cynnwys ymgyrch aml-lwyfan ar TikTok ac Instagram er mwyn denu pobl 18-34 oed.

Bydd ymgyrch farchnata awyr agored sy’n cynnwys hysbysebu Croeso Bae Abertawe yn ddigidol ar hybiau trafnidiaeth allweddol ar draws Llundain a dinasoedd mawr eraill y DU, hefyd yn parhau tan 20 Mawrth. Mae gwaith arall ar gyfer yr ymgyrch yn cynnwys 200,000 copi o arweiniad i Fae Abertawe newydd ar gyfer 2022 yn cael eu dosbarthu drwy’r holl gyrchfan ac i leoliadau allweddol fel gorsafoedd petrol ar hyd yr M4, yr M5 a’r M42.

Bydd ymgyrch natur a bywyd gwyllt gyda’r cyflwynydd teledu Iolo Williams hefyd yn cael ei lansio ym mis Ebrill. Bydd yr ymgyrch, sy’n ceisio hyrwyddo pwysigrwydd amgylchedd awyr agored Bae Abertawe i iechyd a lles, hefyd yn amlygu pwysigrwydd twristiaeth gynaliadwy, wrth annog pobl i barchu eu hamgylchedd.

Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth:

“Mae twristiaeth wedi bod ymysg y sectorau sydd wedi dioddef mwyaf drwy gydol y pandemig, felly rydym yn benderfynol o barhau i gefnogi’n busnesau twristiaeth wrth i ni ddod allan o’r pandemig a thu hwnt.

“Bydd y pecyn cymorth sydd ar gael yn helpu i godi proffil Bae Abertawe fel cyrchfan ymwelwyr i filoedd o bobl ar draws y DU ac ymhellach i ffwrdd, a hefyd yn helpu nifer o’n busnesau twristiaeth i dalu costau cyfleusterau a fydd yn gwella’r profiad i ymwelwyr maent yn ei ddarparu ymhellach.

“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw tymor y gwanwyn i fusnesau twristiaeth, gan fod gwanwyn llwyddiannus yn aml yn gyfle i gael haf llwyddiannus hefyd o ran nifer yr ymwelwyr a gwariant.

“Bydd ymgyrch marchnata Croeso Bae Abertawe ar gyfer y gwanwyn yn adeiladu ar bopeth arall y mae’r cyngor eisoes wedi’i wneud eleni i gefnogi’n sector twristiaeth. Mae hyn yn dilyn cymorth ariannol y mae’r cyngor eisoes wedi’i ddarparu ers dechrau’r pandemig, gan gynnwys cael gwared ar ffioedd fel y gall busnesau twristiaeth a lletygarwch barhau i gael eu cynnwys ar wefan ddynodedig swyddogol Croeso Bae Abertawe am ddim tan fis Mawrth 2023.”

Mae’r gronfa cymorth twristiaeth yn darparu grantiau o hyd at £80,000 i gefnogi adferiad microfusnesau llety yn ardaloedd gwledig a lled-wledig Abertawe.

Cynhaliwyd ymgyrch fach hefyd ym mis Chwefror i hyrwyddo cynnig awyr dywyll Bae Abertawe. Roedd hyn yn cynnwys fideos o Gefn Bryn, Porth Einon a Bae y Tri Chlogwyn. Mae ymgyrch gwyliau sy’n addas i gŵn yn parhau hefyd, ac mae fideo newydd eisoes wedi cael ei wylio dros 20,000 o weithiau ar YouTube ers ei lansio ar ddechrau’r mis diwethaf.

%d bloggers like this: