03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymorth i brynwyr cartrefi yng Nghymru cael ei estyn

MAE Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi y bydd cynllun Cymorth i Brynu Cymru yn cael ei estyn am drydydd cam.

Bydd y cynllun perchentyaeth poblogaidd, a oedd i fod i gau i ymgeiswyr ar 31 Mawrth 2021, yn cael ei estyn tan fis Mawrth 2022 gyda’r posibilrwydd o estyniad pellach tan fis Mawrth 2023 yn amodol ar y cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae Cymorth i Brynu Cymru wedi gwneud cyfraniad pwysig o ran cefnogi pobl sy’n awyddus i fod yn berchen ar gartref a adeiladir o’r newydd ond sydd angen cymorth i wneud hynny –  drwy sicrhau bod cartrefi’n fforddiadwy ac o fewn cyrraedd y prynwyr. Ers ei sefydlu yn 2014, mae dros 10,215 o gartrefi wedi’u prynu drwy’r cynllun.

Bydd trydydd cam y cynllun yn cyflwyno rhai newidiadau o fis Ebrill 2021 gan gynnwys lleihau’r cap ar brisiau o £300,000 i £250,000, yn ogystal â sicrhau gwell ansawdd, gan y bydd pob cartref yn barod i dderbyn band eang.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael cartref diogel a fforddiadwy o ansawdd da yw uchelgais y llywodraeth hon. Mae’n bleser gen i gyhoeddi ein bwriad i estyn cynllun Cymorth i Brynu Cymru tan fis Mawrth 2023, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael y tu hwnt i 2020-21 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Rwy wedi dweud fy mod i wedi ymrwymo i ddarparu tai fforddiadwy ac os nad oes cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yna bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ariannu cam tri o gynllun Cymorth i Brynu Cymru am o leiaf deuddeg mis arall, tan fis Mawrth 2022.

Rwy am sicrhau bod cymorth ar gael i bawb sydd ei angen wrth wneud y pryniant mwyaf arwyddocaol yn ei bywyd a chaniatáu i ddatblygwyr gynllunio ar gyfer eu dyfodol. Byddwn yn parhau i gydweithio â datblygwyr a’r holl randdeiliaid dros y misoedd nesaf i sicrhau bod cartrefi sy’n cael eu prynu drwy  Cymorth i Brynu Cymru nid yn unig o ansawdd da ond hefyd  yn barod i dderbyn band eang fel bod gan berchnogion cartrefi fynediad parod at wasanaethau hanfodol”.

%d bloggers like this: