03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymorth i gefn gwlad Cymru yn dilyn £26m hwb i dwristiaeth

MAE Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi £26m i gyfyngu ar ôl troed carbon twristiaeth yng Nghymru, hybu bioamrywiaeth a gwella mynediad i gefn gwlad fel y gall pawb fwynhau ei harddwch.

Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad wrth iddi agor rhwydwaith cerbydau trydan (EV) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro – credir mai dyma’r rhwydwaith mwyaf helaeth mewn unrhyw barc cenedlaethol yn y DU gyda 74 o bwyntiau gwefru.

Esboniodd y Gweinidog y byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio i helpu i wneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy a chefn gwlad Cymru yn fwy gwydn yn dilyn twf gwyliau gartref yn ystod y pandemig.

Mae rhai o’r ffyrdd y caiff ei ddefnyddio yn cynnwys:

gwella cyfleusterau trafnidiaeth a thwristiaeth, yn enwedigmewnmannau poblogaidd i dwristiaid;

gwella rhwydweithiau llwybrau troed gan ganolbwyntio’n benodol ar fynediad i bobl anabl; ac

ariannu prosiectau a fydd yn gwella Parciau Cenedlaethol Cymru fel y gallant storio carbon yn well a darparu gwell amddiffyniad i fywyd gwyllt

Meddai’r Gweinidog:

“Wrth i fwy o bobl ddarganfod cefn gwlad Cymru, mae’n rhaid i ni sicrhau y gall ddelio â’r pwysau.

Ein gweledigaeth yw cefn gwlad lle gall cymunedau barhau i weithio a ffynnu, lle gall ymwelwyr fwynhau tra’n gadael ôl troed yn unig ar ôl, a lle gall planhigion a bywyd gwyllt ffynnu unwaith eto.

Mae natur yn rhoi’r offer i ni fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ac yn ein galluogi i deimlo’n well yn ein hunain pan fyddwn yn cysylltu ag ef – mae’n iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ofalu amdano.”

Mae Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cwmpasu 25% o arwynebedd Gymru ac yn chwarae rhan fawr wrth alluogi pobl o bob cefndir i gael mynediad i gefn gwlad yn ddiogel.

Yn gartref i fawndiroedd, tir fferm a rhywogaethau sydd mewn perygl, ystyrir bod rheoli cefn gwlad yn effeithiol yn amhrisiadwy wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Yn ystod ei hymweliad â gorllewin Cymru, cyfarfu’r Gweinidog hefyd â chynllun mynediad i’r anabl ar draeth Saundersfoot, sy’n darparu cadeiriau olwyn wedi’u cynllunio’n arbennig fel y gall defnyddwyr lywio’r tir tywod yn rhwydd.

Cyfarfu hefyd â grŵp cerdded lleol sy’n dweud bod eu cyfarfodydd cymdeithasol i grwydro eu hardal wedi gwella eu hiechyd meddwl.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Mae buddsoddi mewn mynediad i’r awyr agored yn un o brif bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer y manteision niferus y mae’n eu darparu.

Y tu hwnt i gyfleoedd economaidd twristiaeth, profwyd bod cysylltu â natur yn gwella iechyd meddyliol a chorfforol.

Mae prosiectau arloeol fel Llwybr Arfordir Cymru yn galluogi cerddwyr i droedio ei harfordir 1400km o hyd, tra bod cynlluniau ar y gweill i greu Coedwig Genedlaethol i Gymru sy’n ymestyn o’r gogledd i’r de o’r wlad.”

Meddai Tegryn Jones, Prif Swyddog Gweithredol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Mae’r cyllid hwn wedi ein helpu i sicrhau bod mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gael ar draws ein Parc Cenedlaethol, gan ein symud ymhellach tuag at ein nod o ddod yn Barc Cenedlaethol sero-net.

Yn ei dro, bydd hyn yn galluogi mwy o drigolion, ymwelwyr a busnesau i leihau eu hôl troed carbon a chefnogi ymgyrch barhaus yr Awdurdod, sy’n annog pobl i ‘droedio’n ysgafn’ yn ystod eu taith i Arfordir Sir Benfro.”

%d bloggers like this: