04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymorth llifogydd gwerth £6.5m i gymunedau Cymru | £6.5m flooding support for Welsh communities

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £6.5 miliwn i gefnogi awdurdodau lleol a phobl y mae llifogydd yn effeithio arnynt yn ystod cyfyngiadau symud Lefel Rhybudd 4.

Bydd yr arian yn caniatáu i awdurdodau lleol wneud cais am gostau ymateb i lifogydd gan gynnwys cymorth i breswylwyr i fynd i’r afael â chost uniongyrchol difrod dŵr ac adnewyddu nwyddau angenrheidiol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn cefnogi aelwydydd sydd wedi dioddef llifogydd yn eu cartrefi neu fu’n rhaid gadael eu cartrefi gyda taliadau o £500 a £1,000, yn debyg i’r cymorth a ddarparwyd yn ystod stormydd Ciara a Dennis y llynedd.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Mae delio â’r difrod a achosir gan lifogydd yn ddigon anodd, ond mae gorfod delio ag ef yng nghanol pandemig yn heriol dros ben. Bydd y gronfa hon yn galluogi awdurdodau lleol i wneud taliadau i unigolion i’w cynorthwyo i aros yn eu cartrefi eu hunain yn ddiogel, er mwyn lleihau cysylltiadau a lledaeniad y feirws.

“Mae awdurdodau lleol yn gweithio’n eithriadol o galed i gefnogi pobl y mae eu cartrefi wedi’u distrywio gan lifogydd ac rwy’n estyn fy nghydymdeimlad a’m cefnogaeth i bawb yr effeithiwyd arnynt.”

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

“Rydyn ni’n deall yr effaith ddinistriol y mae llifogydd mawr yn eu cael ar gymunedau, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn.

“Dwi’n falch y bydd y cyllid ychwanegol rydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu awdurdodau lleol i ddarparu cymorth hanfodol i’r rhai yr effeithir arnyn nhw.”

WELSH Government Ministers have announced £6.5million to support local authorities and people affected by flooding during the Alert Level 4 lockdown.

The funding will allow local authorities to claim for the costs of responding to flooding including support to residents to address the immediate cost of water damage and replacing necessary belongings.

Welsh Government has already announced it will support households who have suffered flooding in their homes or were evacuated with payments of £500 and £1,000, similar to the support provided during storms Ciara and Dennis last year.

Housing and Local Government Minister Julie James said:

“Dealing with the damage caused by flooding is difficult enough, but having to deal with it in the midst of a pandemic is extremely challenging. This fund will enable local authorities to make payments to individuals to assist them to stay in their own homes safely, to minimise contacts and the spread of the virus.

“Local authorities are working extremely hard to support people whose homes have been devastated by flooding and I want to offer my sympathy and support to everyone who has been affected.”

Finance Minister Rebecca Evans said:

“We understand the devastating impacts that major flooding incidents have on communities, particularly during these challenging times.

“I am pleased that the additional funding we are announcing today will help local authorities to provide vital support to those affected.”

%d bloggers like this: