04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymuned Ystâd Bryncenydd yn bwrw gwreiddiau

MAE un o gymunedau Caerffili wedi bwrw gwreiddiau diolch i ymdrechion y bobl leol a hwb ariannol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae Grŵp Cymunedol Ystâd Bryncenydd wedi cydweithio â’r aelodau ward lleol – sef y Cynghorydd Shayne Cook a’r Cynghorydd James Pritchard – a Chyngor Caerffili i fywiogi eu hardal leol gyda phrosiect plannu coed.

Rhoddwyd £3,000 ar gyfer y prosiect gan raglen Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) y Cyngor, a fydd yn cael ei fuddsoddi yng nghartrefi tenantiaid y Cyngor a’u cymunedau lleol.

Cafodd y gwaith plannu ei gyflawni gan Dîm Parciau’r Cyngor ar safleoedd yn Heol-y-parc, Nantgarw Road a Phlas Phillips; gyda rhywogaethau coed yn cynnwys lliwefr, pisgwydd arian a cherddin.

Dywedodd y Cynghorydd James Pritchard a Shayne Cook, aelodau ward lleol:

“Yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol â’r gymuned ar welliannau amgylcheddol posibl o dan y rhaglen SATC, roedd trigolion yn awyddus iawn i gymryd rhan yn y gwaith plannu, ond yn anffodus, o ganlyniad i’r pandemig, roedd hyn yn amhosibl i ni ei drefnu. Ar ôl siarad â’r gymuned ers y gwaith plannu, fodd bynnag, maen nhw’n hapus iawn gyda’r canlyniadau.”

Ychwanegodd Aelod Cabinet y Cyngor Lisa Phipps dros Dai ac Eiddo:

“Wrth i ni agosáu at gwblhau ein rhaglen SATC, mae’n wych gweld bod elfen amgylcheddol y safon yn parhau i ddod â gwelliannau o’r math i’n cymunedau lleol. Mae prosiectau fel hyn nid yn unig yn gwella ardaloedd yn esthetaidd, ond hefyd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon a chreu amgylchedd gwyrddach er budd cenedlaethau’r dyfodol.”

%d bloggers like this: