04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymunedau am Waith a Mwy wedi helpu trigolyn i ddychwelyd i’r gwaith

Mae’r prosiect Cymunedau am Waith a Mwy wedi gallu helpu un o drigolion Ceredigion i ddychwelyd i’r gwaith wedi iddo gael ei wneud yn ddi-waith o ganlyniad i gael ei ddiswyddo.

Cafodd Jahsyl Abberton o Aberystwyth ei ddiswyddo o’i swydd llawn amser, ond llwyddodd i ddod o hyd i waith rhan amser dros dro. Wrth weithio fel gweinydd a goruchwylydd mynediad, daeth Jahsyl ar draws y prosiect Cymunedau am Waith a Mwy yn y papur newydd lleol a phenderfynodd ymweld â swyddfa’r cyngor i gael mwy o wybodaeth.

Trefnodd staff y Cyngor apwyntiad i Jahsyl yr wythnos ganlynol gyda staff Cymunedau am Waith a Mwy, a eglurodd y prosiect a beth fyddai ar gael iddo.

Llwyddodd Jahsyl i gael Cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu wrth astudio am gymhwyster y Bwrdd Arholi Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol. Dywedodd: “Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i Gyngor Sir Ceredigion am y cymorth a’r gefnogaeth a roddwyd i mi drwy’r cynllun Cymunedau am Waith a Mwy. Llwyddais i gael Cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu ac ennill gwaith oherwydd y cynllun hwn. Mae’r cynllun yn darparu cyfleoedd i bobl fel fi sy’n chwilio am waith. Mae wedi fy helpu gyda Cherdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu a’r Cynllun Hyfforddi Diogelwch Rheoli Safle.”

Aeth yn ei flaen, “Diolch yn arbennig i Glesni Hemming, Delor Evans (Mentor), Catrin Davies (Swyddog Cyswllt Cyflogwyr) a Delyth Smart (Swyddog Cymorth) am eu cymorth wrth helpu gyda’r cyrsiau a chael fy nghardiau adeiladu.

Gyda chymorth Delor a Catrin, rwyf bellach wedi fy nghyflogi ar gontract dros dro gydag Afan Electrical Limited fel llafurwr cyffredinol. Mae’r tîm wedi bod yn wirioneddol wych, hoffwn fynegi fy niolch am bopeth y maen nhw wedi’i wneud.”

Y Cynghorydd Catrin Miles yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Mae hon yn enghraifft wych o sut mae Cymunedau am Waith a Mwy yn gallu helpu unigolion yn y sir. Mae cymorth ymarferol fel hwn yn amhrisiadwy i bobl sy’n profi diweithdra. Cysylltwch â’r tîm os ydych chi’n teimlo y gallech chi elwa o’r prosiect hwn.”

Os hoffech gael gwybod mwy, ffoniwch un o’n mentoriaid ar 01545 574193.

%d bloggers like this: