03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynghori disgyblion a staff mewn saith o ysgolion Bro Morgannwg i hunanynysu

MAE Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a’r Fro wedi cynghori grwpiau swigod ym mhob un o’r saith o ysgolion canlynol i hunanynysu:

Ysgol Gynradd Tregatwg, Ysgol Gynradd Colcot, Ysgol Gynradd High Street a Ysgol Gynradd Palmerston o’r Barri.

Hefyd Ysgol Gynradd Evenlode, Penarth, Ysgol Gynradd Llandochau, Llandochau a Ysgol Gynradd y Bont-faen, Y Bont-faen.

Rhoddwyd y mesur hwn ar waith ar ôl i nifer fach o achosion positif gael eu cofnodi yng Nghanolfan Adnoddau Llandochau yr wythnos diwethaf.

Mae’r tîm Profi, Olrhain, Diogelu rhanbarthol yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion unigol a Chyngor Bro Morgannwg i reoli’r digwyddiad a chynnig cymorth i ddisgyblion, rhieni a staff. Nid yw disgyblion na staff y tu allan i’r grwpiau swigod dan sylw mewn perygl.

Dywedodd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio:

 “Mae hwn yn fesur sy’n cael ei roi ar waith i sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosibl ar ysgolion. Gyda mwy o ddisgyblion yn dychwelyd i’n hysgolion ac amrywiolion Covid-19 newydd ar led mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gweithredu’n gyflym ac yn ofalus. 

“Mae gan bob ysgol brosesau cadarn ar waith i ymateb i ddigwyddiadau fel hyn ac mae defnyddio swigod cyswllt wedi sicrhau y bydd pob disgybl arall yn gallu mynd i’r ysgol yn ôl y bwriad, heb amharu ymhellach ar ddysgu wyneb yn wyneb.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae o ran sicrhau bod disgyblion yn dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn llwyddiannus. Ni ddylai rhieni anfon eu plant i’r ysgol os oes ganddynt unrhyw symptomau Covid-19. Yn hytrach, dylai’r aelwyd gyfan aros adref a chael prawf.”

Gall pobl sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg bellach gael prawf coronafeirws am ddim os oes ganddynt unrhyw un o ystod ehangach o symptomau. Yn ogystal â thri symptom mwyaf cyffredin Covid-19 – twymyn, peswch parhaus newydd neu golli/newid y gallu i arogli neu flasu – mae pobl bellach yn gallu cael prawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r canlynol.

Blinder, Myalgia (poen yn y cyhyrau), Dolur gwddw, Cur pen, Tisian, Trwyn sy’n rhedeg, Colli’r awydd i fwyta, Cyfog, Chwydu a Dolur rhydd.

Nod y dull estynedig hwn yw helpu i ddod o hyd i achosion o amrywiadau COVID-19 newydd a nodi’r bobl hynny a allai fod mewn perygl o drosglwyddo’r clefyd i bobl eraill heb yn wybod.

 

%d bloggers like this: