04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cynghorydd Richard John yw Arweinydd newydd Cyngor Sir Fynwy

MAE’R Cynghorydd Richard John yn Arweinydd newydd Cyngor Sir Fynwy. Mae’n olynu’r Cynghorydd Peter Fox, sydd wedi camu lawr o’r swydd yn dilyn ei ethol yn Aelod o Senedd Cymru yn yr etholiad diweddar.

Yn 38 mlwydd oed ac yn cyn aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc, Richard yw’r person ieuengaf yng Nghymru i fod yn arweinydd cyngor ac mae eisoes wedi penodi cabinet cyntaf Sir Fynwy gyda nifer gyfartal o fenywod a dynion. Daeth y Cynghorydd Sara Jones yn Ddirprwy Arweinydd, wrth ochr y Dirprwy Arweinydd presennol, y Cynghorydd Bob Greenland.

“Mae’n wir yn fraint i gael fy ethol i arwain Cyngor Sir Fynwy ar yr amser tyngedfennol hwn yn adferiad y sir o’r pandemig,” meddai’r Cyng John. “Bu hon yn flwyddyn heriol iawn ar gyfer cynifer o’n preswylwyr a’n blaenoriaeth gyntaf oll yw sicrhau llesiant ein cymunedau a galluogi ein preswylwyr i fynd yn ôl i fyw eu bywydau. Mae hyn yn golygu helpu ein busnesau, yn cynnwys y rhai mewn manwerthu a lletygarwch, i fynd yn ôl ar eu traed, gan gynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc, gan alluogi mwy o gyfleoedd ar gyfer iechyd corfforol a meddwl da a sicrhau urddas ac annibyniaeth ar gyfer pobl hŷn.”

Etholwyd Richard John i Gyngor Sir Fynwy yn ward Llanfihangel Troddi ym mis Mai 2017 ac mae wedi gwasanaethu fel Aelod Cabinet Addysg a Hamdden ers yr amser hwnnw. Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, agorodd y Cyng John ddwy ysgol newydd sbon yng Nghil-y-coed a Threfynwy, rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer ysgol newydd yn y Fenni, ac arwain newidiadau mawr i ddalgylchoedd ysgolion i alluogi mwy o ddisgyblion Sir Fynwy i fynychu ysgolion Sir Fynwy. Mae wedi bod yn llwyddiannus wrth ffederaleiddio arweinyddiaeth ar draws nifer o ysgolion, paratoi’r ffordd i uwchraddio canolfannau hamdden y sir ac mae wedi goruchwylio llawer o welliannau mewn safonau ysgolion.

“Mae’r ffydd y mae’r cydweithwyr wedi ei osod ynof yn gwneud i mi deimlo’n wylaidd iawn a byddaf yn gwneud popeth a allaf i wneud Sir Fynwy yn lle hyd yn oed gwell i fyw, gweithio a magu teulu ynddo”, meddai’r tad i ddau o blant.

Fel Cynghorydd Ward Llanfihangel Troddi, mae Richard wedi trefnu sesiynau casglu sbwriel a glanhau cymunedol. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel llywodraethwyr ysgol ac arweinydd sgowtiaid, a chyn hynny roedd wedi ei hyfforddi fel chef.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chynghorwyr o bob lliw gwleidyddol a’r rhai heb unrhyw blaid, a phartneriaid ein sir, ynghyd â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflawni ar gyfer pobl Sir Fynwy,” meddai’r Cyng John, sydd â gradd Meistr yng Ngwleidyddiaeth Cymru.

Wrth siarad am gabinet newydd y cyngor, dywedodd y Cyng. John: “Rwyf wedi penodi prif dîm deinamig a blaengar, o ystod eang o gefndiroedd proffesiynol a rydym i gyd wedi ein huno gan ymdeimlad o frys i gyflawni pethau a gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox OBE, oedd yn ymadael fel Arweinydd:

“Dros y pedair blynedd ddiwethaf bu Richard yn Aelod Cabinet rhagorol, mae wedi ennill yr ymddiriedaeth a pharch preswylwyr a chynghorwyr fel ei gilydd. Mae wedi meithrin cysylltiadau cryf ar draws Cymru gan gynrychioli’r sir, sy’n arbennig o bwysig ar hyn o bryd wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Rwy’n fwy na hyderus y bydd yn Gadeirydd ardderchog.”

Bu’r Cyng Fox yn aelod o Gyngor Sir Fynwy am dros 20 mlynedd, ac yn Arweinydd am 13 mlynedd. Dyfarnwyd OBE iddo am Wasanaethau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn 2017 a chafodd ei ethol yn ddiweddar yn gynrychiolydd etholaeth Mynwy yn Senedd Cymru. Bydd Peter yn aros yn Sir Fynwy lle mae’n byw gyda’i deulu a phedwar o blant sydd bellach yn oedolion ar y fferm da byw y mae’n ei rhedeg yn ne’r sir.

Gweithred gyntaf y Cynghorydd John fel Arweinydd oedd talu teyrnged i’r Cyng Fox:

“Mae’r ffordd yr arweinydd Peter Fox yr awdurdod hwn am 13 mlynedd yn rhagorol, ac mae wedi ennill canmoliaeth gan gynifer o bobl ar draws y sir. Mae Peter yn wych am gydweithio – bu ganddo rôl allweddol wrth sicrhau bargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ymysg llawer o lwyddiannau eraill. Ni fedrech gobeithio canfod dyn mwy gwylaidd, diffuant ac ysbrydoledig. Mae Peter wedi ysbrydoli cynifer ohonom i gredu ynom ein hunain, i ymdrechu ar gyfer y gorau ar gyfer ein sir. Bu ei effaith ar ein hawdurdod lleol yn ddifesur, rwy’n siŵr fy mod yn siarad am bawb yn Sir Fynwy pan ddiolchwn iddo am ei holl waith caled.”

%d bloggers like this: