04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Abertawe darparu cymorth ariannol gwerth £1.2m i helpu bwytai, barau a chaffis

BYDD busnesau lletygarwch yn Abertawe yn elwa o gannoedd ar filoedd o bunnoedd o gymorth gan y cyngor i helpu masnachu yn yr awyr agored.

Mae hyn yn cynnwys tua £1.2m sydd wedi’i ymrwymo gan Gyngor Abertawe ar gyfer grantiau am gelfi awyr agored.

Mae cymorth arall i fusnesau wedi cynnwys atal ffïoedd ar gyfer masnachu ar y palmant, gan arbed dros £57,000 i fasnachwyr.

Mae’r sawl sy’n rhedeg gerddi cwrw ar dir preifat wedi bod ymhlith yn rheini i elwa o help y cyngor.

Cyflwynwyd y cymorth dros y 10 mis diwethaf. Mae e’ wedi helpu busnesau i sefydlu a masnachu’n gyflym yn ystod y pandemig a thrwy gyfyngiadau’r Llywodraeth – a bydd yn helpu’r ddinas i arwain y ffordd allan o’r pandemig.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart:

“Dyfarnom grantiau celfi stryd o hyd at £80,000 i fwy na 200 o fusnesau – gan atal ffïoedd masnachu yn yr awyr agored mewn mwy na 100 o eiddo.

“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw’r busnes lletygarwch i bobl ac economi Abertawe ac rydym yn hyderus y bydd y cymorth hwn yn golygu y bydd bwytai, caffis a bariau yn helpu i arwain y ddinas allan o’r pandemig.”

%d bloggers like this: