04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Abertawe wedi dosbarthu 19 miliwn eitem o gyfarpar amddiffyn personol

ERS dechrau pandemig Coronafeirws, mae Cyngor Abertawe wedi dosbarthu tua 19 miliwn eitem o gyfarpar amddiffyn personol (PPE) i staff sy’n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol ac mewn ysgolion.

Mae’r ymgyrch logistaidd enfawr i ddosbarthu mygydau, ffedogau, menig, gogls, hylif diheintio dwylo ac eitemau eraill i leoliadau ar draws y ddinas wedi cael ei rheoli gan dîm bach o staff y cyngor, a reolir gan Mark O’Neill a Mark Davies o’r Ganolfan Ddinesig.

Mae e wedi sicrhau bod cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref y cyngor, ynghyd â’r rheini yn y sector preifat a holl ysgolion Abertawe, wedi cael digon o stoc i helpu i atal ymlediad y feirws.

Ariennir y cyfarpar amddiffyn personol gan Lywodraeth Cymru, ond fe’i dosberthir i 220 o leoliadau ledled Abertawe gan y cyngor yn fisol.

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau, “Rydym wedi gorfod wynebu llawer o heriau dros y 10 mis diwethaf, ac mae ein staff wedi ymateb yn rhyfeddol drwy addasu’n gyflym mewn amgylchiadau sy’n newid yn gyflym.

“Mae’r tîm caffael yn nodweddu hyn ac wir wedi dangos bod y cyngor yma i bobl Abertawe ar adegau o’r angen mwyaf.

“Mae wedi bod yn her logistaidd enfawr i sicrhau ein bod yn derbyn cyflenwadau o’r math iawn ar yr adeg iawn.

“Mae’n dasg sy’n parhau, ac yn un o’r ffyrdd y mae’r cyngor wedi bod yn trawsnewid yr hyn y mae’n ei wneud yn ystod y pandemig i bobl Abertawe.”

Ers cychwyniad y feirws, mae’r cyngor wedi dosbarthu dros bedair miliwn o fygydau i staff gofal cymdeithasol mewnol ac allanol ynghyd â bron 10 miliwn o fenig a phedair miliwn o ffedogau.

Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys eitemau PPE eraill na’r cyflenwadau sydd wedi’u dosbarthu i ysgolion.

%d bloggers like this: