03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Abertawe yn buddsoddi £59 miliwn gyfer cartrefi newydd a gwella cannoedd eraill

MAE Cyngor Abertawe ar fin buddsoddi mwy na £59 miliwn i adeiladu cartrefi newydd a gwella cannoedd o rai eraill dros y flwyddyn nesaf.

Dan gynigion sy’n cael eu hystyried gan y Cabinet yr wythnos nesaf, mae’r cyngor yn bwriadu gwario dros £7m yn ystod 2021-22 i adeiladu cenhedlaeth newydd o gartrefi gan gynnwys yn Hillview Crescent a West Cross.

Mae mwy na dwbl y swm hwnnw – £16m – hefyd yn cael ei glustnodi i inswleiddio a diddosi cannoedd o gartrefi presennol i’w gwneud yn gynnes ac yn effeithlon.

Bydd y cyngor hefyd yn treialu cyflwyno technolegau adnewyddadwy i eiddo dethol fel rhan o’i ddyhead uchelgeisiol i wneud cartrefi’n fwy effeithlon, lleihau costau cartref a lleihau allyriadau carbon.

Bydd hwn yn gyfle i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd lleol mewn technolegau carbon isel ymhellach.  Mae cynllun £5m y cyngor ar gyfer ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y maes hwn sydd eisoes wedi gwella dros 9,500 o dai cyngor.

Mae’r gwariant yn rhan o’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai cyngor am rent fforddiadwy yn y ddinas ac mae rhagor i ddod gyda chynlluniau a fydd yn cyfrannu tuag at y nod o greu 1,000 o gartrefi newydd, cyfforddus, ynni effeithlon dros y degawd nesaf.

Dywedodd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, fod rhaglen wario uchelgeisiol Cyngor Abertawe ar gyfer tai’r cyngor yn adlewyrchu ei ymroddiad at ddarparu cartrefi o safon sy’n ynni effeithlon ac yn fforddiadwy ar gyfer tenantiaid.

Meddai, “Mae gwell cartrefi i’n preswylwyr yn un o flociau adeiladu hanfodol creu dyfodol gwell i blant, teuluoedd a’n dinas.

“Er gwaethaf y pandemig, rydym wedi parhau â’n rhaglenni adeiladu tai a gwella cartrefi gan fod gwell cartrefi’n gwella iechyd pobl, mae tai fforddiadwy sy’n ynni effeithlon yn helpu i leihau tlodi, a chyda’i gilydd maent yn cyfrannu at gymunedau hapusach.

Meddai, “Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, cafwyd buddsoddiad enfawr gwerth degau ar filiynau o bunnoedd er mwyn sicrhau bod y tai sy’n eiddo i ni mewn cyflwr da ac yn addas i’r dyfodol dan Safon Ansawdd Tai Cymru.

“Yn y flwyddyn i ddod, bydd buddsoddiad pellach o £59m yn fras yn golygu y bydd cannoedd o deuluoedd yn elwa o welliannau i’w cartrefi.

“Clustnodir arian ar gyfer prosiectau eraill hefyd, gan gynnwys ailweirio trydanol ac amddiffyn rhag y tywydd lle bo angen yn ogystal â gwelliannau amgylcheddol cyffredinol.

Meddai, “Dan ein menter Rhagor o Gartrefi, dyma’r tro cyntaf i ni gael caniatâd i adeiladu cartrefi newydd mewn cenhedlaeth. Rydym yn benderfynol y byddant yn torri tir newydd mewn lefelau o effeithlonrwydd ynni fel y gall ein tenantiaid gadw’u biliau ynni’n isel.

“Dros y degawd nesaf, byddwn yn parhau i wella effeithlonrwydd ynni’n cartrefi i leihau allyriadau carbon. Mae ein hymrwymiad i gartrefi gwell wedi creu cannoedd o swyddi i’n cymunedau a bydd yn parhau i wneud hynny. Drwy wella cartrefi’n rydym yn adeiladu gwell Abertawe.”

Daw’r arian ar gyfer y cartrefi newydd a’r gwelliannau ar gyfer y cartrefi sydd eisoes yn bodoli o’r rhent a delir gan y tenantiaid, grantiau gan Lywodraeth Cymru a benthyca CRT. Ni ddaw unrhyw ran o’r arian o Dreth y Cyngor.

%d bloggers like this: