04/22/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Abertawe yn recriwtio prentisiaid ar gyfer gwasanaethau adeiladau

MAE Cyngor Abertawe’n lansio’i ymgyrch flynyddol i recriwtio prentisiaid yr wythnos hon ac mae 17 o leoedd ar gael yn nhîm y Gwasanaethau Adeiladau.

Ceir parch mawr at raglen arobryn y cyngor am ei bod yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o seiri coed, plymeriaid, trydanwyr a phlastrwyr.

Mae ffurflenni cais bellach ar gael ar wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/swyddi a’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am un o brentisiaethau’r gwasanaeth adeiladau yw dydd Gwener 5 Mawrth.

Caiff prentisiaethau eraill mewn nifer o adrannau eraill eu hysbysebu ar y wefan drwy gydol y flwyddyn.

Meddai’r Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, “Rwy’n hynod falch o’n rhaglen brentisiaeth oherwydd ein henw da am hyfforddiant o’r radd flaenaf ac am gynhyrchu gwaith crefft a chrefftwyr o safon – yn ddynion ac yn fenywod.

“Mae cannoedd o bobl ifanc leol wedi elwa ers iddi gychwyn ac wedi symud ymlaen i yrfaoedd gwerth chweil yn y cyngor a’r tu allan iddo diolch i’r sgiliau maent wedi’u datblygu.

“Mae’n amser cyffrous iawn i ymuno â thîm y gwasanaethau adeiladau gan ein bod yn ymrwymedig i adeiladu 1,000 o dai cyngor ynni effeithlon fforddiadwy yn ystod y 10 mlynedd nesaf wrth barhau i fuddsoddi’n drwm mewn gwelliannau i’n stoc tai bresennol.

“Mae bob amser llawer o ddiddordeb pan fydd y swyddi hyn ar gael, a’r llynedd, mynegodd mwy na 350 o bobl ddiddordeb, felly byddwn yn annog darpar brentisiaid i wneud cais am y rolau newydd hyn.”

%d bloggers like this: