04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Abertawe yn ymrwymo i’r polisi ‘Dim Hiliaeth Cymru’

MAE Cyngor Abertawe wedi ailgadarnhau ei ymagwedd dim goddefgarwch at hiliaeth drwy lofnodi polisi Dim Hiliaeth Cymru Cyngor Hil Cymru.

Cynhaliwyd seremoni lofnodi ar-lein heddiw dan arweiniad Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, a Judge Ray Singh CBE a Uzo Iwobi OBE o Gyngor Hil Cymru.

Ymunwyd â nhw gan aelodau’r Cabinet, arweinwyr grwpiau gwleidyddol ac uwch-swyddogion .

Drwy lofnodi’r polisi, mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn trin pob person yn deg ac yn gyfartal ni waeth beth fo’i hil, bod hyn yn ymrwymiad i bolisi cyfle cyfartal mewn cyflogaeth ac wrth ddarparu gwasanaetha ac y bydd y cyngor yn glynu wrth Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn darparu gwasanaethau teg a chyfartal i bawb.

Mae’r cyngor bellach yn ymuno â sefydliadau ac unigolion eraill sydd wedi llofnodi’r polisi, a rhestrir yr enwau’n gyhoeddus ar wefan Dim Hiliaeth Cymru.

Meddai’r Cyng. Stewart:

“Mae gan Abertawe hanes balch o wrthwynebu pob ffurf ar hiliaeth, ond fel y mae digwyddiadau’r byd wedi dangos, yn enwedig y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys o gwmpas y byd, rhaid i ni barhau i  sefyll gyda’n gilydd, dod at ein gilydd a dweud ‘Na’ wrth hiliaeth.

Ni fydd y cyngor yn goddef  rhagfarn gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, cam-drin neu drais hiliol yn erbyn unrhyw unigolyn a byddwn yn parhau i gefnogi  Cyngor Hil Cymru a’i waith i hybu cymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal i bawb”.

Meddai’r Barnwr Ray Singh CBE, Cadeirydd Cyngor Hil Cymru:

“Mae anghydraddoldebau hiliol yn parhau i ddifetha bywydau cymunedau lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru – nid yw hyn yn dderbyniol. Rydym yn galw ar yr holl sefydliadau i sefyll yn gadarn i ddileu hiliaeth a gwahaniaethu yn eu sefydliadau; mae cenedlaethau’r dyfodol yn dibynnu ar yr addewid hwn. Gadewch i ni gymryd camau gyda’n gilydd heddiw i wneud Cymru’n lle tecach a mwy diogel.”

%d bloggers like this: