04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Blaenau Gwent symud ymlaen ar adeiladu Ysgol Gynradd Gymraeg yn Nhedregar

MAE Pwyllgor Gweithredol Cyngor Blaenau Gwent wedi cytuno symud ymlaen i’r cam nesaf mewn cynnig i adeiladu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Nhredegar.

Daeth ymgynghoriad, yn cynnwys yr holl brif randdeiliaid, i ben yn ddiweddar ar y cynnig i ddatblygu ysgol ‘egin’ Gymraeg 210 lle gyda gofal plant ar yr un safle, yn Chartist Way. Byddai’r ysgol yn cael ei hadeiladu yn defnyddio £6 miliwn o fuddsoddiad cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y Cyngor yn awr yn symud i gyhoeddi Hysbysiad Statudol, fydd yn fyw am 28 diwrnod ac a fydd yn caniatáu unrhyw barti sydd â diddordeb i wneud gwrthwynebiad ffurfiol.

Blaenau Gwent yw’r unig ardal awdurdod lleol yng Nghymru i fod â dim ond un ysgol gynradd Gymraeg.

Byddai’r ysgol yn cael ei hadeiladu i safonau modern Ysgolion yr 21ain Ganrif. Byddai creu ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Tredegar/Cwm Sirhywi yn galluogi’r Cyngor i ddiwallu unrhyw gynnydd yn y galw am leoedd gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Cyflwynwyd yr adborth o’r ymgynghoriad chwe wythnos i aelodau’r Pwyllgor Gweithredol cyn iddo wneud penderfyniad heddiw (dydd Llun 22 Chwefror 2021).

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor:

“Uchelgais Llywodraeth Cymru yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac ym Mlaenau Gwent, drwy ein Cynllun Strategol Addysg Gymraeg, mae gennym uchelgais i dyfu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn gweld galw cynyddol am leoedd addysg a darpariaeth blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg yn lleol, a bydd ysgol newydd gyda gofal plant ar y safle yn rhoi mwy o ddewisiadau i rieni wrth ddewis llwybr addysg ar gyfer eu plant.

“Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad sydd wedi galluogi’r Pwyllgor Gweithredol i wneud penderfyniad gwybodus heddiw a chytuno’n unfrydol i symud ymlaen gyda’r cynnig.”

Byddai’r ysgol newydd yn dechrau fel ‘darpariaeth egin’ gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn ac yn tyfu i ddarpariaeth ar gyfer pob blwyddyn erbyn 2029.

Fel rhan o’r ymgynghoriad cysylltodd y Cyngor gyda chyrff llywodraethol, staff ysgolion, plant a phobl ifanc, rhieni a phreswylwyr lleol i gasglu ystod o safbwyntiau.

%d bloggers like this: