MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi mynd ati i baratoi ar gyfer ailagor Pafiliwn Pier Penarth ar ol cymryd rheolaeth dros yd adeilad yn ddiweddar.
Pan ildiodd gweithredwyr blaenorol Penarth Arts and Crafts Ltd eu prydles, camodd y Cyngor i’r adwy i reoli’r pafiliwn a’i ddiogelu fel ased cymunedol.
Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol wedi dechrau cael eu llunio, gyda’r bwriad o wneud trigolion yn rhan bwysig iawn o’r broses honno.
Ond, yn gyntaf, mae rhaglen lanhau, cynnal a chadw ac atgyweirio ar y gweill i sicrhau bod y pafiliwn yn y cyflwr gorau ar gyfer y bennod gyffrous nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant:
“Mae’r pafiliwn yn adeilad pwysig ac eiconig i Benarth, un yr ydym am ei roi yn ôl wrth galon y gymuned.
“Rydym yn gobeithio yn y dyfodol agos y bydd y pafiliwn yn adnodd pwysig i breswylwyr, gan gynnig lle i’r celfyddydau a phosibilrwydd ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau eraill.
“Mae arwyddion wedi’u gosod i roi gwybod i bobl y bydd y pafiliwn ar ei newydd wedd yn agor yn fuan, ond cyn y gallwn fwrw ymlaen â’r cynlluniau hynny mae’n rhaid i waith ddigwydd i adfer yr adeilad i’w hen ogoniant.”
Mae trefn lanhau drylwyr wedi dechrau gwella gwedd mewnol ac allanol y pafiliwn.
Mae gwaith cynnal a chadw hanfodol arall, gan gynnwys archwiliad trylwyr o’r larwm tân a gwaith i fynd i’r afael â nifer o faterion trydanol, ar y gweill.
Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i wella’r system wresogi, tra bod amrywiaeth o atgyweiriadau cynnal a chadw eraill hefyd wedi’u trefnu.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m