04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Bro Morgannwg yn cyhoeddi ei Gynllun Cyflawni Blynyddol 2021/22

MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi ei Cynllun Cyflawni Blynyddol sydd yn nodi’r camau sy’n cael eu rhoi ar waith dros y deuddeg mis nesaf a fydd yn cyfrannu at yr amcanion lles hir dymor a nodir yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor.

Y pedwar amcan lles yw:

Gweithio gyda, a thros ein cymunedau; ategu dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy; cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned; a hefyd parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd

Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg:

‘Mae Cynllun Cyflawni Blynyddol 2021-22 wedi’i ysgrifennu ar adeg o newid mawr. Y llynedd cyhoeddwyd Cynllun Corfforaethol 2020-25 – Gweithio gyda’n gilydd at ddyfodol disgleiriach. Mae’r Cynllun Cyflawni Blynyddol hwn yn manylu ar y camau y byddwn yn eu rhoi ar waith eleni i gyfrannu at y gwaith o gyflawni ein Cynllun Corfforaethol.

‘Mae’r Cynllun Cyflawni Blynyddol yn adlewyrchu sut mae gwasanaethau’n newid, ein Strategaeth Adfer a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i ymateb i’r pandemig. Mae’r Cyngor yn parhau’n uchelgeisiol yn ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, rydym yn parhau’n ymrwymedig i gyflawni ein hamcanion ac i gyflawni ein gweledigaeth o ‘cymunedau cryf gyda dyfodol disglair’.

Mae’r Cyngor yn darparu ystod eang o wasanaethau hanfodol i drigolion y Fro ac ar yr un pryd mae’n ceisio gwella ein gwasanaethau bob blwyddyn. Wedyn cyhoeddir y gweithgareddau a wneir i gyflawni Amcanion Lles y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod mewn Cynlluniau Gwasanaeth, sy’n cyfrannu’n helaeth at y gwaith o gyflawni’r  Cynllun Corfforaethol.

Caiff y cynlluniau hyn eu monitro bob chwarter. Mae gan Gyngor Bro Morgannwg ddyletswydd statudol i gyhoeddi Amcanion Lles bob blwyddyn a phennu targedau’n erbyn y rhain er mwyn ysgogi gwelliannau mewn meysydd sy’n bwysig i ni a thrigolion y Fro.

 

%d bloggers like this: