04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor buddsoddi £1.5 miliwn i lanhau a thacluso cymunedau Gwynedd

GYDAG arwyddion o’r gwanwyn o’n cwmpas, mae’r cyntaf o bump tîm o staff fydd yn ymgymryd â thasgau bach ond pwysig fydd yn rhoi sglein ar gymunedau Gwynedd wedi cychwyn ar eu gwaith.

Yn dilyn buddsoddiad o £1.5 miliwn gan Gabinet Cyngor Gwynedd, bydd Timau Tacluso Ardal Ni yn cychwyn gweithio mewn cymunedau o Aberdyfi i Abergwyngregyn dros y misoedd nesaf.

Bydd y timau yn ymgymryd â llu o dasgau twtio megis glanhau palmentydd ac arwyddion, cael gwared ar graffiti, tacluso ymylon ffyrdd, atgyweirio a gosod biniau, delio â thipio slei bach, chwynnu a glanhau gwm cnoi.

Bwriad y gwaith fydd cyfrannu at y nod o wneud cymunedau Gwynedd yn lan a thaclus yn unol â dymuniad trigolion lleol.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd:

“Fel rhan o waith ymgysylltu cyhoeddus Ardal Ni 2035, mae sawl neges eisoes wedi ein cyrraedd gan bobl, sefydliadau a grwpiau lleol am bwysigrwydd gwella edrychiad a’r angen i dwtio eu cymunedau.

“Rydym wedi gwrando yn ofalus ar yr adborth yma ac wedi ymateb drwy glustnodi £1.5 miliwn i gyflwyno’r Timau Tacluso. Gyda’r buddsoddiad yma, byddwn yn cyflogi staff newydd fydd yn gweithio mewn cymunedau ar draws y sir, ynghyd a cerbydau ac offer arbenigol i gyflawni gwaith tacluso trylwyr.

“Bydd y timau yn gweithredu ar yr hyn mae pobl Gwynedd eisiau ei weld yn digwydd yn lleol – pethau fel glanhau meinciau, codi sbwriel, chwynnu a glanhau arwyddion. Mae tasgau bychan fel hyn yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i bryd a gwedd stryd neu gymuned a bydd y Timau Tacluso Ardal Ni yn helpu i sicrhau cymunedau glan a thaclus ar draws Gwynedd.

“Wrth i’r timau gychwyn ar eu gwaith o ddifri dros yr wythnosau nesaf, rwy’n hyderus y bydd trigolion yn gweld bod pryd a gwedd eu cymunedau yn gwella, bod strydoedd a pharciau lleol yn fwy twt, a bod gwaith yn digwydd i daclo lleoliadau blêr.

“Yr hyn sydd wir yn wahanol am y prosiect yma o gymharu â’r gwaith sydd wedi digwydd o’r blaen ydi bod o’n seiliedig ar yr hyn mae cymunedau am ei weld yn digwydd.

“Mae balchder cymunedol yn ein hardaloedd lleol yn rhywbeth sy’n effeithio ar fywydau pob un ohonom ni. Mae pawb eisiau byw yn rhywle sydd yn edrych yn ddeniadol, lle mae nhw’n teimlo’n falch o’u cymuned.

“Dyna bwrpas Timau Tacluso Ardal Ni, ein bod ni fel Cyngor yn gweithio hefo’n trigolion i sicrhau y gorau i gymunedau Gwynedd.”

Bydd Timau Tacluso’r Cyngor i’w gweld mewn cymunedau ar draws Gwynedd dros y misoedd nesaf.

%d bloggers like this: