03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Caerdydd bwriadu ailwampio’r ddarpariaeth rhandiroedd

MAE  tyfu ein bwyd ein hunain ar randiroedd wedi bod yn un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o gadw’n heini yn ystod y pandemig ac mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i sicrhau y gall cynifer ohonom â phosibl ddychwelyd i’r tir.

Ar hyn o bryd mae 28 o safleoedd rhandiroedd ar draws y ddinas, sy’n cynnwys mwy na 3,400 o leiniau y gofelir amdanynt gan tua 2,400 o ddeiliaid ond yn ystod y pandemig mae’r rhestr aros o bobl sy’n awyddus i dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain wedi tyfu o 793 yn 2020 i 1,292.

Nawr, mae’r Cyngor yn cynnig ailwampio ei wasanaethau rhandiroedd er mwyn ystyried y cynnydd hwn yn y galw a pharhau â rhaglen o welliannau a oedd yn cael ei dal yn ôl oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo.

Mae Strategaeth Rhandiroedd Caerdydd yn amlinellu cyfres o fesurau a gynlluniwyd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys:

Lleihau rhestrau arose; Gwella safonau tofu; Cynyddu bioamrywiaeth; Gweithio gydag elusennau a chyrff eraill i wella mynediad i randiroedd ar gyfer grwpiau difreintiedig, a Nodi safleoedd rhandiroedd newydd

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, fod rhandiroedd yn ffordd wych o ddod â chymunedau at ei gilydd a rhoi arferion iach a boddhaus i bawb, waeth beth fo’u hoedran neu eu galluoedd.

“Mae llawer o’r rhandiroedd ledled Caerdydd yn cael eu rhedeg gan eu haelodau, gyda chefnogaeth Swyddog Rhandiroedd y Cyngor, ac maent yn ffynnu ond mae’n amlwg o ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ymhlith deiliaid yr hydref diwethaf fod llawer y gallwn ei wneud i wella cyfleusterau a helpu i wneud rhandiroedd yn fwy hygyrch.”

Mae’r adroddiad yn cydnabod bod angen gwella seilwaith llawer o randiroedd, gan gynnwys ffyrdd mynediad a chyflenwadau dŵr ac mae gan rai broblemau llifogydd. Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth rhandiroedd yn cael ei ariannu bron yn gyfan gwbl gan y refeniw o renti – tua £160,000 y flwyddyn – ond nid yw hyn yn ddigonol i ddelio â maint y cynllun.

Y llynedd, rhoddodd grant untro o £59,395 gan Lywodraeth Cymru hwb i gyllideb y rhandiroedd ond gwariwyd bron y cyfan ohono ar osod ffensys newydd mewn safleoedd ym Mhontcanna a Threlái tra bod y gweddill wedi mynd ar fotiau dŵr newydd ar draws y ddinas.

“Mae angen adolygiad o’r ffordd mae rhandiroedd yn cael eu hariannu,” meddai’r Cynghorydd Bradbury. “Mae angen i ni wella cyflenwadau dŵr a’u gwneud yn llai dibynadwy ar ddŵr y prif gyflenwad, lleihau gwastraff ac annog mwy o ddefnydd o ddŵr glaw i dyfrio’r lleiniau.

“Rydym hefyd am wella mynediad i grwpiau difreintiedig, mynd i’r afael â lleiniau sydd wedi gordyfu, dileu’r defnydd o fawn a phlaladdwyr cemegol, gwella safonau tyfu, lleihau’r rhestrau aros a chynyddu bioamrywiaeth.”

Mae’r Cyngor hefyd yn awyddus bod ei bolisi prisio yn adlewyrchu gallu deiliaid rhandiroedd i dalu. Ar hyn o bryd, mae cost flynyddol mangre – llain 25m² – rhwng £13.38 a £12.36 y flwyddyn, gyda phobl dros 60 oed a’r rhai sydd ar fudd-daliadau yn talu hanner.

%d bloggers like this: