03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Caerdydd yn ennill anrhydedd cenedlaethol Ymgyrch Cyflog Byw

MAE ymrwymiad Cyngor Caerdydd i dalu’r Cyflog Byw i’w weithwyr ac annog cyflogwyr i ddilyn eu hesiampl wedi ennill anrhydedd genedlaethol i Bartneriaeth Dinas y Cyflog Byw.

Yng ngwobrau mawreddog y Cronicl Llywodraeth Leol, a gynhaliwyd yng Ngwesty Grosvenor Llundain yr wythnos hon, enillodd y cyngor yn y categori Partneriaeth Gyhoeddus/Preifat.

Wrth wneud y wobr, dywedodd y beirniaid fod cynnig y cyngor yn dangos angerdd ac ymrwymiad gyda dull cyngor cyfan trawiadol, gan ychwanegu: “Mae’n amlwg ei fod wedi adeiladu momentwm dros nifer o flynyddoedd, i’r graddau bod clymblaid glir ac eang o baramedrau’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

“Mae wedi datblygu momentwm trawiadol sydd wedi helpu i ennyn mwy o annibyniaeth a lleihau’r ddibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus.”

Gwnaeth y cyngor ymrwymiad i dalu’r Cyflog Byw (£9.90 yr awr ar hyn o bryd) dros 10 mlynedd yn ôl ac mae wedi arwain y ffordd yng Nghymru a’r DU wrth hyrwyddo’r Cyflog Byw

Sefydlwyd Partneriaeth Dinas Cyflog Byw Caerdydd yn 2018 i hyrwyddo manteision y Cyflog Byw ac i helpu i greu Caerdydd fwy cyfartal.

Arweinir y Bartneriaeth gan y cyngor ac mae’n dwyn ynghyd ystod o sefydliadau gan gynnwys Cynnal Cymru, Dinasyddion Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro, Capital Law a Phrifysgol Caerdydd. Dyfarnwyd statws Dinas Cyflog Byw i Gaerdydd yn 2019.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:

“Rydym yn falch iawn bod y gwaith partneriaeth gwych hwn wedi cael ei gydnabod.  Mae Cyngor Caerdydd wedi hyrwyddo’r Cyflog Byw ers amser maith, ac mae Partneriaeth Dinas Cyflog Byw Caerdydd yn enghraifft wych o’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn ein dinas yn cydweithio i gyflawni nod cyffredin a phwysig.  Hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid am eu gwaith anhygoel yn cyfrannu at hyn.

Edrychwn ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth dros y blynyddoedd i ddod i helpu hyd yn oed mwy o sefydliadau yn y ddinas i ddod yn gyflogwyr Cyflog Byw, a all godi pobl allan o dlodi, lleihau anghydraddoldebau, a rhoi hwb i’n heconomi leol.”

Yng Nghaerdydd, mae dros 64,000 o bobl bellach yn gweithio i gyflogwyr Cyflog Byw achrededig ac mae Prifysgol Caerdydd wedi cyfrifo bod £39m ychwanegol wedi mynd i economi’r ddinas o ganlyniad, tra bod nifer y bobl sy’n ennill islaw’r Cyflog Byw yng Nghaerdydd wedi gostwng o 42,000 yn 2017 i 24,000 yn 2021.

Erbyn mis Ebrill 2024, mae’r Bartneriaeth Cyflog Byw yn bwriadu cael 260 o gyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig yn y ddinas, 85,000 o weithwyr yn gweithio i gwmnïau Cyflog Byw a 10,500 o weithwyr yn cael codiad cyflog i’r Cyflog Byw o leiaf.

Yn cynrychioli’r cyngor yn y gwobrau neithiwr oedd y rheolwr strategaeth a datblygu John Paxton a Steve Robinson, pennaeth comisiynu a chaffael.

%d bloggers like this: