03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Caerffili dathlu blwyddyn o ddosbarthu prydau ysgol am ddim

MAE Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyrraedd blwyddyn o ddosbarthu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ledled y Fwrdeistref Sirol.

Ym mis Mawrth 2020, heriwyd y tîm Arlwyo i fwydo dros 6,000 o blant a phobl ifanc ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Cafodd brechdanau eu darparu yn ystod y pythefnos cyntaf, nes y gallai’r tîm a chyflenwyr lleol drefnu pecynnau prydau wedi’u rhewi i’w dosbarthu i aelwydydd cymwys.

Parhaodd y gwasanaeth dosbarthu pan ddychwelodd y plant i’r ysgol ym mis Medi nes ailgyflwyno gwasanaeth arlwyo yn ddiogel, ac maen nhw wedi parhau yn ystod y cyfyngiadau yn 2021 pan gaewyd ysgolion.

Roedd y gwasanaeth dosbarthu yn gweithredu yn ystod gwyliau’r Pasg ac mae hefyd wedi’i ddarparu i’r disgyblion hynny sy’n hunanynysu a’r disgyblion sy’n rhan o grŵpiau blwyddyn sydd heb ddychwelyd eto.

Mae bocs prydau’r Pasg yn cynnwys ŵy Pasg i bob disgybl.

Dywedodd Marcia Lewis, Prif Swyddog ar gyfer Arlwyo:

“Ni allaf gredu bod blwyddyn gyfan wedi mynd heibio ers i ni gyflwyno ein gwasanaeth dosbarthu prydau ysgol am ddim. Mae hon wedi bod yn dasg enfawr sydd wedi’i chyflawni trwy’r gwaith tîm gwych o bob rhan o’r awdurdod a’r cyflenwyr lleol. Dyma enghraifft o Dîm Caerffili yn gweithio ar ei orau.”

Ychwanegodd, “Diolch i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosibl. Rydych chi wedi galluogi myfyrwyr cymwys ledled y Fwrdeistref Sirol i gael pum pryd poeth yr wythnos am y flwyddyn diwethaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Addysg a Chyflawniad:

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn i ni i gyd, ond am gyflawniad anhygoel i’r awdurdod! Mae hwn yn gynllun arloesol, ac ni allem ni ei wneud heb eich gwaith tîm a’ch ymdrech chi i gyd bob wythnos. Diolch i bawb dan sylw, rwy’n gobeithio bod yr holl ddisgyblion wedi mwynhau eu danteithion Pasg a chael seibiant da o’r ysgol.”

%d bloggers like this: