03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Caerffili yn ailddatgan ymrwymiad i hyrwyddo goddefgarwch a chynhwysiant

MAE Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili wedi ailddatgan eu hymrwymiad i hyrwyddo goddefgarwch a chynhwysiant yn y gweithle. Bydd cynghorwyr yr awdurdod lleol yn cymryd rhan mewn seminar i Aelodau a fydd yn myfyrio ar weithredoedd y Cyngor ers llofnodi’r siarter – wrth drafod sut y gall y Cyngor, wrth symud ymlaen, barhau i weithredu mewn ffordd sy’n annog cynhwysiant ac yn hyrwyddo goddefgarwch.

Y llynedd, fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ymuno â phartneriaid Undeb Llafur, Unison a GMB, i weithio tuag at gyflawni nod cyffredin o gynyddu goddefgarwch a chydraddoldeb yn y gweithle.

Y Siarter ‘Undod dros Ymraniad’ oedd y cyntaf o’i fath gan Awdurdod Lleol yng Nghymru, yn gosod y safon i eraill ei dilyn. Mae’r siarter yn ymrwymo’r Awdurdod Lleol i weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur i hybu man gwaith mwy goddefgar a chynhwysol, gyda chydraddoldeb hiliol wrth ei wraidd.

Meddai’r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor a fydd yn bresennol:

“Roedd llofnodi’r ‘Siarter Undod dros Ymraniad ’yn achlysur pwysig wrth i Gaerffili ddod yn awdurdod lleol cyntaf i ymrwymo i’r siarter hon y llynedd.  Mae’r siarter yn ffurfioli’r ymrwymiad a’r ymroddiad sydd gennym ni fel awdurdod lleol i hyrwyddo goddefgarwch a pharch ymhlith ein gweithlu mawr ac amrywiol.

Bydd seminar i aelodau sydd i ddod yn rhoi cyfle i gynghorwyr Caerffili fyfyrio ac i ddysgu sut y gallwn ni, fel cyflogwr, barhau i hyrwyddo goddefgarwch ac annog cynhwysiant i sicrhau bod Caerffili yn parhau i arwain y ffordd fel cyflogwr sy’n hyrwyddo goddefgarwch.”

%d bloggers like this: