04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Ceredigion yn rhybuddio trigolion am sgamwyr dros frechlyn Covid19

MAE Cyngor Sir Ceredigion wedi dod yn ymwybodol bod troseddwyr wedi bod yn anfon negeseuon testun ac e-byst yn ceisio denu pobl i wneud cais am frechlyn Covid-19.

Mae Tîm Safonau Masnach, rhan o Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor, yn rhybuddio preswylwyr i fod yn wyliadwrus, i wirio URL gwefan bob amser ac i beidio ag agor atodiadau mewn negeseuon e-bost neu destunau amheus.

Ni fydd y GIG byth yn gofyn am daliad na manylion banc ar gyfer y brechlyn Covid-19.

Anogir preswylwyr i ddilyn y camau hyn os cysylltir â nhw:

Os ydych wedi derbyn e-bost, nad ydych yn hollol siŵr amdano, anfonwch ef at y Gwasanaeth Adrodd E-bost Amheus (SERS) ar report@phishing.gov.uk;

Os ydych wedi derbyn negeseuon testun amheus, anfonwch y neges hon ymlaen i’r rhif di-dâl i a hefyd

Os byddwch yn derbyn galwad ffôn, rhowch y ffôn i fyny ar unwaith a rhwystro’r rhif.

%d bloggers like this: