04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Gwynedd yn cynllunio blaenoriaethau am y flwyddyn i ddo

MAE cynghorwyr Gwynedd wedi mabwysiadu cynllun sy’n amlinellu’r hyn y bydd y Cyngor yn ei gyflawni dros y 12 mis nesaf.

Mabwysiadwyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023 yn wreiddiol ym mis Mawrth 2018, ac yn flynyddol ers hynny mae cynghorwyr wedi bod yn adolygu’r cynnwys er mwyn sicrhau fod yr awdurdod yn parhau i flaenoriaethu gwaith yn ôl anghenion pobl y sir.

Adolygiad 2022-23 fydd yr adolygiad olaf o’r Cynllun presennol, ac yn dilyn yr etholiad ym mis Mai 2022, bydd Cyngor newydd yn cyfarfod er mwyn llunio eu blaenoriaethau am y pum mlynedd nesaf.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:

“Wrth i Gynllun y Cyngor presennol ddod i ddiwedd ei oes, gallwn adlewyrchu ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni dros y pum mlynedd diwethaf, a hynny mewn amgylchiadau anodd iawn ar brydiau oherwydd y wasgfa ariannol, Brexit a pandemig Covid-19.

“Mae’r materion yma wedi cael dylanwad ac effaith pellgyrhaeddol ar drigolion a gwasanaethau lleol, ac yn fwy nag erioed mae’r cyfnod wedi rhoi chwyddwydr ar faterion fel  iechyd meddwl a llesiant, tlodi ac anghydraddoldeb o fewn ein cymunedau.”

Fel rhan o’r broses flynyddol o adolygu prif feysydd gwaith y Cyngor, roedd angen ystyried beth oedd wedi newid ers y llynedd, gan edrych ar y materion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a pholisi sy’n dylanwadu ar y Cyngor ac sy’n debygol o ddylanwadu ar bobl Gwynedd i’r dyfodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Mae’r Cynllun yma’n cynnwys nifer o flaenoriaethau a phrosiectau sydd wedi eu hadolygu dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae heriau penodol sydd wedi codi yn sgil argyfwng Covid-19 a’r cyfnod adfer wedi amlygu’r problemau fwyfwy. Felly drwy gyd-weithio gyda’n partneriaid yn y sector gyhoeddus a’r trydydd sector ein gobaith yw lleihau’r effaith negyddol ar ein cymunedau.

“Yn ystod y 12 mis nesaf bydd y Cyngor yn parhau i edrych ar anghenion cymunedau lleol gan ymateb i’r materion sydd o bwys yn lleol. Mae rheswm yn dweud na fydd yr un problemau yn codi ym Mangor, Y Bala a’r Bermo ac felly bydd prosiectau megis ‘llunio cynlluniau adfywio ar gyfer ein hardaloedd’ a ‘chymunedau glan a thaclus’ yn adlewyrchu blaenoriaethau cymunedau unigol.

“Ond mae’n bwysig cydnabod hefyd, drwy galedi’r blynyddoedd a fu, na fyddai modd cynnal ein gwasanaethau lleol heb ymdrechion ac ymroddiad ein gweithlu.

“Mae’n staff medrus ac ymroddgar yn hynod o bwysig i ni ac yn ein galluogi i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion a chymunedau Gwynedd rŵan ac i’r dyfodol.”

%d bloggers like this: