03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor i arwain proses ymgeisio ar gyfer cronfa gymunedol newydd o £3m

BYDD Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithio gydag ymgeiswyr lleol i ddatblygu cynigion ar gyfer cyfran £3m yr ardal o Gronfa Adnewyddu Cymunedol newydd y Deyrnas Unedig.

Mae y gronfa, y gwnaeth y Canghellor Rishi Sunak gyhoeddiad yn ei chylch yn ei gyllideb ar 3 Mawrth, yn cael ei gweinyddu ar lefel genedlaethol gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Ar lefel leol, bydd cynghorau fel Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am arwain y broses ymgeisio, a rhoddir blaenoriaeth i ariannu rhannau mwyaf difreintiedig y wlad. Mae Castell-nedd Port Talbot mewn categori o 100 o safleoedd ariannu sy’n cael blaenoriaeth yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae modd cyflwyno cynigion unigol ar raddfa o hyd at £500,000, a dylai’r prosiectau gael eu cyflawni erbyn 31 Mawrth, 2022.

Bydd ystod o ymgeiswyr am brosiectau, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i gyrff sector gwirfoddol, cymunedol a sector addysg, yn gallu cyflwyno cynigion i’r cyngor.

Bydd angen i’r cynigion gynnwys rhyw fath o fuddsoddiad naill ai mewn sgiliau, busnesau lleol neu gymunedau a lleoedd. Gallant fod hefyd ar gyfer prosiectau sy’n helpu pobl i gael cyflogaeth.

Bydd cynghorau sy’n gymwys yn gallu cyflwyno rhestr fer wedi’i blaenoriaethu o gynigion hyd at uchafswm gwerth o £3m fesul ardal ar gyfer 2021/22. Yna bydd rhaid i gynghorau gyflwyno’r rhestr orffenedig o gynigion i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol erbyn 18 Mehefin, 2021.

Gall unrhyw sefydliad a ffurfiwyd yn gyfreithlon sy’n darparu gwasanaeth priodol ymgeisio am gyllid. Ni ellir cyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau sydd o fudd i un endid (er enghraifft, busnes unigol) – rhaid bod tystiolaeth o effaith ehangach ar unigolion, busnesau neu sefydliadau eraill lluosog.

%d bloggers like this: