04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor i wario £1.5 miliwn ar fflatiau newydd yn y Barri

BYDD safle hen ganolfan gofal iechyd yn y Barri yn cael ei drawsnewid yn ddatblygiad tai gwerth £1.5 miliwn gan Gyngor Bro Morgannwg.

Mae caniatâd cynllunio wedi ei gymeradwyo ar gyfer y tir ar Winston Road a arferai fod yn gartref i glinig Colcot yn cael ei droi’n 12 fflat eco-gyfeillgar un ystafell wely.

Byddant yn cynnwys cegin/ystafelloedd byw cynllun-agored mawr, balconïau a pharcio oddi ar y stryd.

Bydd y fflatiau’n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy ac yn cynnwys gwresogi ynni effeithlon, paneli solar a chynaeafu dŵr glaw.

Byddant yn cael eu hychwanegu at stoc dai’r Cyngor i ateb y galw sylweddol am y mathau hyn o eiddo.

Dyma’r cynllun diweddaraf i fynd i’r afael â’r angen hwn ac mae’n dilyn datblygiad tebyg yn Llys Llechwedd Jenner, tra bod eraill ar y gweill yn Hayes Road a Hayeswood Road yn y Barri, ynghyd â safle fflatiau pobl hŷn ym Mhenarth.

Gyda mynediad hawdd i siopau lleol, ysgolion a safleoedd bws, bydd y datblygiad hwn yn helpu i hyrwyddo teithio llesol, gan gyfrannu tuag at Brosiect Sero’r Cyngor, sy’n anelu at sicrhau allbwn carbon sero-net erbyn 2030.

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladau:

“Mae datblygu hen safle Clinig Colcot yn enghraifft arall o’n hymrwymiad i ddarparu tai Cyngor i breswylwyr.”Bydd y cynllun yn creu amgylchedd diogel ac yn agos at amwynderau lleol, gan roi ymdeimlad cryf o gymuned i drigolion.

“Mae’n bwysig i ni gynnig tai o safon i breswylwyr a mannau byw dymunol sy’n cael eu hadeiladu gyda chynaliadwyedd a gwerthoedd gwyrdd wrth eu gwraidd.”

%d bloggers like this: