04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Mynwy pennu cyllideb gan ailddatgan ei ymrwymiad i ddiogelu gwasanaethau allweddol

MAE Cyngor Sir Fynwy wedi pennu cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Bydd y Cyngor yn blaenoriaethu ei wariant ar faterion a fydd yn helpu pobl i fyw eu bywydau yn y ffordd y maent yn dewis. Yn diogelu gwasanaethau i’r rhai mwyaf agored i niwed, yn sicrhau bod ysgolion mewn sefyllfa dda i gefnogi eu dysgwyr wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol, a sicrhau y gellir bodloni’r galw cynyddol mewn gofal cymdeithasol i oedolion a’r gwasanaethau i blant.

Mae’r gyllideb yn ailymrwymo’r cyngor i agenda sy’n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb o fewn cymunedau a rhyngddynt.

Yn dilyn adborth gan breswylwyr ar gynigion cychwynnol a gyhoeddwyd ar 20fed Ionawr 2021, ac a gasglwyd dros y cyfnod ymgynghori llawn, mae’r cyngor wedi diwygio ei gynigion ac mae’r rheini wedi’u cadarnhau heddiw.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:

“Hoffwn ddiolch i bob preswylydd sydd wedi rhannu eu hadborth gyda ni.  Rydym wedi gwrando arnoch. Mae’r newidiadau dilynol i’r gyllideb yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi’i ddweud wrthym sy’n bwysig i chi.  Yn benodol, eich pryderon y gallai’r cynnydd arfaethedig o 4.95% yn y dreth gyngor effeithio ar y rhai sydd fwyaf difreintiedig yn ariannol oherwydd y pandemig COVID-19 ac oherwydd y cyfnodau cloi sydd wedi mynd law yn llaw â hynny. O ganlyniad, gallaf gadarnhau y bydd cynnydd y dreth gyngor yn y flwyddyn i ddod yn gostwng i 3.89%. Newid, gwella ac addasu ein gwasanaethau, yn hytrach na’u cau, yw ein dull o weithredu o hyd. Mae’r gyllideb hon yn dangos uchelgais i’r sir yn wyneb yr amseroedd mwyaf heriol.”

Dyma rai o’r buddsoddiadau mawr y cytunwyd arnynt gan y cyngor heddiw:

Cydnabod pwysau gofal cymdeithasol; yn bennaf o amgylch ein poblogaeth sy’n heneiddio, oedolion sydd ag anableddau a nifer cynyddol o blant sy’n derbyn gofal;

Cydnabod pwysau a arweinir gan alw o ran plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol;

Cynyddu’r buddsoddiad mewn cynlluniau lliniaru llifogydd dros y flwyddyn nesaf a’r tymor canolig;

Creu cyllid cyfalaf o £1m i gefnogi ceisiadau grant sy’n gofyn am gyfraniad gan y cyngor, yn fwyaf nodedig mewn perthynas â cheisiadau Teithio Llesol sylweddol sydd wedi’u cyflwyno’n ddiweddar i Lywodraeth Cymru;

Gwario £0.8 miliwn ychwanegol ar gynlluniau cynnal a chadw priffyrdd;

Parhau i weithio ar ysgol 3-18 oed newydd yn y Fenni;

Darparu cartref preswyl newydd i Severn View;

Bwrw ymlaen â gwaith dichonoldeb ar seilwaith trafnidiaeth newydd yng Nghas-gwent ac o’i amgylch; a hefyd

Parhau â chynlluniau i adfywio canol Cil-y-coed.

Aeth y Cynghorydd Murphy ymlaen i ddweud:

“Mae amrywiaeth o newidiadau i wasanaethau a lleihau costau eisoes wedi digwydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol, gan gynnwys cau Ysgol Tŷ Mounton, er bod y gwasanaethau’n parhau mewn mannau eraill, cau Canolfan Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu Brynbuga a chynnydd yn y taliadau am gasglu gwastraff gardd.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy:

“Mae’r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru yn well nag yr oeddem yn disgwyl i ddechrau, ond nid yw’n gwneud iawn am y pwysau sylweddol ar wasanaethau y mae’r cyngor yn parhau i’w hwynebu. Mae’r rhagolygon tymor canolig yn ansicr a disgwyliwn i Lywodraeth Cymru barhau i ddarparu cymorth ariannol penodol i dalu costau eithriadol sy’n gysylltiedig ag ymateb i bandemig COVID ac ymestyn y cymorth hwn tuag at gefnogi ac adeiladu cymunedau a busnesau tecach. Mae gan lywodraeth leol rôl hanfodol i’w chwarae yn yr ymdrech hon a bydd Cyngor Sir Fynwy yn ymateb i’r her hon.

“Unwaith eto rydym yn y sefyllfa o fod y cyngor a ariennir isaf yng Nghymru o bell ffordd. Mae system bresennol Cymru o rannu arian yn annheg ac yn gwahaniaethu yn erbyn trigolion Sir Fynwy.  Rydym yn parhau i ddarparu rhai o’r gwasanaethau gorau yng Nghymru ond rydym yn gorfod eu darparu heb gyllid digonol.  Nid yw hon yn ffordd ymlaen sy’n gynaliadwy i siroedd gwledig, daearyddol fawr fel un ni ac ni fyddwn yn rhoi’r gorau i’n galwad ar Lywodraeth Cymru i adolygu sut y maent yn rhannu’r arian.

“Erys ansicrwydd sylweddol, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi eglurder ar ein cyllid wrth symud ymlaen i 2022/23 a thu hwnt. Ni ddylid ystyried llywodraeth leol fel y partner tlawd yn nheulu ehangach y sector cyhoeddus. Mae’n chwarae rhan hanfodol ochr yn ochr â’r GIG yng Nghymru, gan gadw pobl yn ddiogel drwy’r cyfnod anoddaf hwn.  Nid ydym yn gofyn unrhyw beth mwy na bod hyn yn cael ei gydnabod,” meddai’r Cynghorydd Fox.

 

%d bloggers like this: