03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Mynwy roi hwb i fywyd gwyllt drwy ostwng rhaglen torri gwair

MAE Cyngor Sir Fynwy wedi sicrhau cyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fydd yn ei alluogi i brynu peiriannau er mwyn cefnogi bywyd gwyllt i ffynnu yn ei barciau a gofodau gwyrdd. Mae prosiect Natur Wyllt yn adeiladu ar brofiad cynllun tebyg a gafodd ei dreialu a’i gefnogi gan grwpiau amgylcheddol yn Nhrefynwy.

Mae tystiolaeth yn dangos y dirywiad byd-eang trychinebus mewn pryfed sydd eu hangen i beillio planhigion, coed a cnydau, ac mae gan ofodau gwyrdd cyhoeddus rôl bwysig wrth ddarparu ffynonellau bwyd yn ogystal â nythod a lleoedd i beillwyr gysgu drwy’r gaeaf. Caiff y glaswellt yng ngofodau gwyrdd a pharciau Sir Fynwy ei dorri hyd at 16 gwaith y flwyddyn ond bydd prosiect Natur Wyllt yn golygu torri rhai rhannau o barciau a gofodau gwyrdd yn llai aml i ganiatáu i flodau dyfu a glaswellt i dyfu’n hirach, gan roi cartrefi ar gyfer pryfed a mamaliaid bach.

Bydd y peiriannau newydd yn galluogi’r cyngor i dorri glaswellt pan mae’n hirach a symud y gwair a dorrir, fydd yn cyfoethogi’r pridd ac yn mygu planhigion sy’n blodeuo os caiff ei adael ar y ddaear. Byddir yn dal i dorri ymylon llwybrau a phalmentydd gyda llwybrau’n cael eu torri drwy rannau newydd o ddolydd, gan roi mynediad i blant chwarae ac annog ymchwilio a mwynhau’r blodau.

Mae ymchwil yn awgrymu bod gan greu amgylcheddau sy’n cefnogi ystod ehangach o fywyd gwyllt fuddion i iechyd a lles meddwl pobl a’u hannog i arafu a mwynhau edrych ar flodau, pryfed a bywyd gwyllt arall. Drwy ddefnyddio’r dull gweithredu hwn, mae’r cyngor yn anelu i wella’r rhagolygon ar gyfer bywyd gwyllt, gan roi cerrig camu hollbwysig i rywogaethau symud rhwng ardaloedd cynefin da. Bydd hefyd yn cyfrannu at wneud y sir yn lle mwy deniadol i fyw a gweithio.

Er efallai na fydd unrhyw fanteision yn amlwg ar unwaith o’r newidiadau hyn, mae’r cyngor yn awyddus i glywed sylwadau pobl am newidiadau, ac unrhyw effeithiau sydd ganddynt ar sut y defnyddiant ofodau gwyrdd lleol. Mae arolwg – www.monmouthshire.gov.uk/nin/ – yn anelu i ddarganfod beth yw barn oedolion a phobl ifanc.

Mae’r cyngor sir hefyd yn awyddus i glywed gan bobl sy’n byw yn agos at y safleoedd a dargedir gan y cynllun hwn, a allai fod â diddordeb mewn ymweld am 15 munud bob mis i fonitro blodau a phryfed peillio. Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbennig gan y bydd deunyddiau hyfforddi a fideo cyfarwyddyd ar gael. Y safleoedd yw Parc Belgrave, Parc Bailey a Chanolfan Adnoddau Parc Mardy yn y Fenni; gofodau gwyrdd Merton Green yng Nghaerwent; gofod gwyrdd Orchid Drive yng Nghil-y-coed; gofod gwyrdd Dancing Hill yng Ngwndy, gofod gwyrdd Heol yr Orsaf Rogiet; gofod gwyrdd Heol Tudor yn Wyesham, Trefynwy ac ardal hamdden Hardwick yng Nghas-gwent. I gael manylion sut i gymryd rhan, cysylltwch â Swyddog Seilwaith Gwyrdd ac Addysg ac Ymwybyddiaeth Sbwriel Sir Fynwy: susanparkinson@monmouthshire.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Cyngor Sir Fynwy:

“Mae Natur Wyllt yn brosiect pwysig sy’n adeiladu ar waith y buom yn ei wneud am nifer o flynyddoedd i gefnogi peillwyr. Mae llawer o bobl wedi mwynhau’r gwelyau blodau peillwyr oedd mor lliwgar yn ystod yr haf ac fe fyddem nawr yn hoffi cefnogi mwy o’n planhigion blodeuo brodorol drwy newid dull rheoli gofodau gwyrdd ar garreg drws llawer o bobl. Hoffem annog cynifer o bobl ag sy’n bosibl i lenwi’r ffurflen arolwg i adael i ni wybod beth yw eu barn am y newidiadau yma. Rydym yma i wrando.”

Caiff prosiect Natur Wyllt ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’i Lywodraeth Cymru a’i gyflwyno gan Wasanaeth Cefn Gwlad ac Adran Gwasanaethau

%d bloggers like this: