03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Mynwy symud ymlaen i wella canol tref Cas-gwent

MAE Cyngor Sir Fynwy wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu ardaloedd amwynder a phlanhigion ar hyd Stryd Fawr Cas-gwent yn ogystal â chefnogi cynllun ar gyfer parth 20mya. Bydd y gwaith hwn, mewn ymateb i’r pandemig presennol, yn atodi mesurau a gyflwynwyd haf y llynedd i sicrhau y gall preswylwyr ac ymwelwyr ddychwelyd yn ddiogel i stryd fawr trefi’r sir gyda lle i gerddwyr gadw pellter cymdeithasol heb gamu i lwybr y traffig.

Bydd y gwaith yn cynnwys ardal uwch ar Sgwâr Beaufort i annog teithio arafach, gan arwain at well cysylltedd cerddwyr rhwng y Stryd Fawr a Stryd y Santes Fair. Bydd hyn yn adlewyrchu ymddygiad presennol ac yn cefnogi pellter cymdeithasol drwy alluogi cerddwyr i groesi mewn mannau cyfleus yn hytrach nag yn y pwynt gwasgu sy’n cael ei greu gan groesiad wedi’i reoli. Yn ychwanegol, mae’r cwrbiau a’r bolardau dro ym Mwa’r Dref a chyffordd Stryd Moor yn ei gwneud yn bosibl symud y rhwystrau a’r arwyddion presennol.

Wrth i’r cyfnod clo ddod i ben a’r ardaloedd amwynder a thybiau planhigion flodeuo, bydd y mesurau hyn yn gwella ymddangosiad y Stryd Fawr, gan gynnig amgylchedd deniadol i siopwyr i fwynhau coffi ac ymlacio wrth ymweld â Chas-gwent. Mae’r cynllun hwn hefyd wedi rhoi ystyriaeth i farchnad y dref gyda stondinau rhwng yr ardaloedd amwynder a thybiau plannu yn ogystal â gofodau eraill mewn cyfnodau prysur.

Er na fwriedir i’r newidiadau hyn – a drefnwyd ar gyfer mis Mawrth ac efallai ddechrau mis Ebrill – fod yn barhaol, cafodd y gwaith ei gynllunio i gyfateb â deunyddiau presennol. Bydd yn cynnig cyfle i dreialu cynllun newydd ar gyfer gwella mynediad i gerddwyr o fewn y dref.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod dros Briffyrdd ar Gabinet Sir Fynwy:

“Daeth grant Llywodraeth Cymru ar amser addas wrth i ni ragweld llacio posibl yn y cyfnod clo. Bydd y cynllun yn cynnig cyfle i greu amgylchedd diogel a dymuno i ymwelwyr ac mae’n enghraifft rhagorol o gydweithredu rhwng y Cyngor, Cyngor Tref Cas-gwent, y Siambr Fasnach a chynghorwyr lleol i helpu trawsnewid y dref a chefnogi busnesau ar ôl yr hyn fu’n gyfnod anodd a heriol iawn.”

%d bloggers like this: