03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i blannu coed mewn mannau newydd

MAE Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn dod o hyd i fannau newydd lle gellir plannu mwy o goed er budd yr amgylchedd lleol.

Mae miloedd o goed eisoes wedi’u plannu mewn ardaloedd megis Sger, Cynffig, Caerau, Y Pîl, Heol y Cyw, Glanrhyd, Bryngarw, Porthcawl a thir o amgylch Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r cyngor bellach wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb coed i weld ymhle y gwneir y gwahaniaeth mwyaf yn sgil y gwaith plannu.

Yn rhan o’r comisiwn hwn mae cynhyrchu canllaw cynnal a chadw coed, yn cynnwys manylion megis technegau tocio da.

Yn ddiweddar, plannwyd coed newydd yng nghaeau chwarae Y Llidiart, ac ar ôl llacio cyfyngiadau Covid-19, cychwynnir gwaith i blannu mwy na 2,000 o goed yng Nghaeau Newbridge ar y cyd â Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnwys perllan treftadaeth gyda Mental Health Matters Wales.

Hefyd, mae cynlluniau ar y gweill i blannu 800 o goed ar Fferm Sger ym mis Mawrth, gan greu 2,000m o goedwrych newydd.

Mae gwaith wedi cychwyn yn yr ardd gymunedol newydd ar hen safle Canolfan Berwyn yn Nantymoel, sy’n cynnwys plannu coed ar y cyd â Chadwch Gymru’n Daclus.

Mae gwaith plannu coed hefyd yn ffurfio rhan allweddol o’r seilwaith gwyrdd yn natblygiad Pentref Llesiant Sunnyside, gyda chynlluniau i blannu oddeutu 150 o goed newydd, yn ogystal â diogelu a chynaeafu coed presennol ar y safle.

Mae’r cyngor mewn trafodaethau â Phrifysgol Abertawe ynghylch prosiect datblygu sy’n gysylltiedig â chreu coetiroedd a lleihau allyriadau carbon deuocsid.

Medd Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, ac hyrwyddwr bioamrywiaeth y cyngor

“Mae coed yn helpu i wella ansawdd aer, lleihau llygredd ac erydiad pridd, ac yn helpu i atal llifogydd, ac mae’r cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ar nifer o brosiectau i blannu miloedd yn fwy o goed ar draws y fwrdeistref sirol. Mewn sefyllfaoedd lle mae’n rhaid tynnu coed er mwyn galluogi cynlluniau ar gyfer datblygiadau newydd, mynnwn fod coed newydd yn cael eu plannu yn eu lle. Gweler enghraifft o hyn ym Mhentref Llesiant Sunnyside, lle mae datblygwyr wedi cyflwyno cynllun seilwaith gwyrdd penodol, fydd yn darparu 150 o goed newydd i gymryd lle’r coed a dorrwyd.

Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb newydd yn ein helpu ni i adnabod mannau lle bydd coed yn cael y dylanwad mwyaf ar ein hamgylchedd lleol, yn ogystal â datblygu technegau arfer gorau i’n helpu ni sicrhau bod y coed yn ffynnu ac mewn cyflwr da.

Mae gan y fwrdeistref sirol nifer o goed trefol, sy’n uwch na’r cyfartaledd arferol, ac rydym eisiau manteisio ar fuddion hyn drwy blannu mwy o goed, yn enwedig mewn ardaloedd sy’n fwy poblog. Ar ôl cyhoeddi canlyniadau’r astudiaeth, byddwn yn gallu datgelu mwy am ein cynlluniau.”

%d bloggers like this: