04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Pen-y-bont galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei chynlluniau cyllido

MAE Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ar frys ei bwriad i ddisodli cynlluniau cymorth rhanbarthol a oedd ar gael yn flaenorol trwy arian yr Undeb Ewropeaidd.

Gwnaed yr alwad ar ôl i’r ardal gael ei heithrio o’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol arfaethedig er ei bod yn cynnwys rhai o’r cymunedau tlotaf yn Ewrop ac yn cael ei rhestru fel rhif pump ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

O dan gynlluniau Llywodraeth y DU, mae’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol yn rhagflaenydd i’r Gronfa Ffyniant a Rennir, a fydd yn y tymor hir yn disodli cronfeydd strwythurol Ewropeaidd.

Dywedodd Mark Shephard, Prif Weithredwr y Cyngor:

”Nid yw’n gwneud synnwyr i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei heithrio rhag cael gafael ar y cyllid hwn pan mae’r ardal hefyd wedi’i chydnabod yn swyddogol fel un sy’n cynnwys rhai o’r cymunedau tlotaf nid yn unig yn y DU, ond yn Ewrop.

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi elwa o’r cyllid a ddefnyddiwyd i ddatblygu prosiectau cymunedol hanfodol a ddyluniwyd i helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd a dod o hyd i waith. Mae hefyd wedi cefnogi darparu buddsoddiad hanfodol mewn cymunedau lleol, ac eto nid ydym wedi derbyn unrhyw esboniad pam nad yw’r ardal bellach yn cael ei hystyried yn gymwys i gael y gefnogaeth hon.

Os aiff hyn ymlaen, bydd yn cael effaith sylweddol ar uchelgeisiau’r cyngor yn y dyfodol a’i allu i gefnogi ein preswylwyr mwyaf difreintiedig, a byddaf yn cysylltu â Llywodraeth y DU ar frys i gofrestru ein pryderon ac i ofyn iddynt ailystyried eu cynlluniau.”

 

%d bloggers like this: