03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor RCT yn cefnogi Ymgyrch Dawns Glaw

MAE Cyngor Rhondda Cynon Taf unwaith eto’n cefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fel rhan o Ymgyrch Dawns Glaw, tasglu a sefydlwyd i leihau nifer y tanau bwriadol.

Mae Ymgyrch Dawns Glaw, tasglu amlasiantaethol o arbenigwyr asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi dod ynghyd unwaith eto i leihau, a lle bo modd, dileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Nid yn unig y mae tanau bwriadol yn peryglu bywydau diffoddwyr tân, maen nhw hefyd yn peri risg sylweddol i’r gymuned. Mae modd iddyn nhw achosi difrod sylweddol i eiddo a’r amgylchedd.

Bydd y tasglu, a sefydlwyd yn 2016 yn wreiddiol i fynd i’r afael â digwyddiadau o danau glaswellt bwriadol ledled Cymru, hefyd yn troi ei sylw at y cynnydd yn nifer y tanau damweiniol. Achosir y rhain yn aml o ganlyniad i ymddygiad diofal pobl wrth iddyn nhw fwynhau yng nghefn gwlad Cymru.

Dywedodd Mydrian Harries, Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw:

“Er ein bod ni’n gwybod bod y tywydd cynnes ym misoedd cyntaf yr haf y llynedd wedi cyfrannu at y cynnydd bach yn nifer y tanau glaswellt ledled Cymru, rydyn ni hefyd yn gwybod bod cynnydd yn nifer y tanau a achoswyd drwy ddamwain hefyd.

“Er bod damweiniau’n digwydd bob hyn a hyn, mae modd eu hosgoi hefyd. Bydd ymgyrch eleni’n canolbwyntio ar gamau syml mae modd eu cymryd er mwyn sicrhau nad ydyn ni’n cynnau tanau glaswellt drwy ddamwain.

“Hoffwn hefyd achub ar y cyfle i atgyfnerthu ein negeseuon – er y gall damweiniau ddigwydd, mae yna rai eraill yn ein cymunedau sy’n cynnau tanau yn fwriadol.

“Dyma drosedd sy’n arwain at erlyniad, ac mae hefyd yn rhoi pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn peryglu ein cymunedau.”

Yn ystod 2020, deliodd y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru â 2,253 o danau glaswellt. Er bod hyn yn gynnydd bach o’i gymharu â 2019, roedd cynnydd o 20% yn nifer y tanau damweiniol yn 2020.

Mae’r cynnydd yma o ganlyniad rhannol i nifer o bobl dreuliodd fisoedd y gwanwyn a’r haf yn mwynhau’r cefn gwlad lleol yn ystod y cyfyngiadau symud oherwydd y pandemig byd-eang.

Yn 2021, oherwydd bwriad llawer yn rhagor o bobl nag erioed i dreulio’u gwyliau yng Nghymru, mae’r tasglu yn awyddus i sicrhau ein bod i gyd yn gwneud hynny’n ddiogel, gan amddiffyn ein cefn gwlad gwerthfawr, ei fywyd gwyllt a’i gynefinoedd sy’n drysor ar ein stepen drws.

Bydd ailgyfeirio adnoddau hanfodol i ddelio â thanau bwriadol yn tynnu adnoddau sylfaenol a gwerthfawr i ffwrdd o’n cymunedau, gan beryglu bywydau’n ddiangen.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am danau bwriadol, neu sy’n dyst i unrhyw beth amheus, ffonio 101 neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Os ydych chi’n gweld tân, neu unrhyw un sy’n cynnau tân, ffoniwch 999 ar unwaith.

 

%d bloggers like this: