03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor RCT yn cyhoeddi cynlluniau i ailagor Lido Ponty

YN dilyn y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, mae modd i’r Cyngor gadarnhau y bydd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn ailagor ddydd Sadwrn 1 Mai.

Cafodd safle’r Lido ei ddifrodi’n sylweddol yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, a ddaeth â dinistr eang i gymunedau ledled Rhondda Cynon Taf yn dilyn y llifogydd gwaethaf mewn cenhedlaeth.  Daeth y pandemig COVID-19 yn fuan wedyn. Serch hynny, parhaodd y Cyngor â’i waith i atgyweirio a gwella’r atyniad poblogaidd dros y flwyddyn ddiwethaf, a chafodd y camau olaf eu cwblhau ym mis Mawrth eleni.

Bydd y Lido’n agor ar benwythnosau a gwyliau’r banc yn unig, gydag oriau agor estynedig er mwyn manteisio i’r eithaf ar y diwrnodau hir. Serch hynny, bydd angen cyfyngu ar nifer y defnyddwyr oherwydd rheoliadau COVID-19.  Efallai y bydd modd cynnal sesiynau nofio cynnar rhwng 6.30am a 9.30am o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ogystal â chyfle i grwpiau nofio lleol ddefnyddio’r pwll gyda’r nos.

Rydyn ni’n disgwyl y bydd y trefniadau yma ar waith am dair wythnos, wedyn byddwn ni’n adolygu’r sefyllfa ac yn ystyried agor ar ragor o ddyddiau. Y gobaith yw y bydd modd cynnig amserlen lawn erbyn yr haf.

Meddai’rCynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:

“Rwy’n siŵr y bydd llawer o drigolion wedi bod yn aros yn eiddgar am gyhoeddiad y Cyngor ynghylch ailagor Lido Ponty, ac ar ôl blwyddyn ddigynsail, mae’n wych ein bod ni’n gallu edrych ymlaen at ddychwelyd i’r Lido yn y dyfodol agos.

“Roedd y difrod a gafwyd yn ystod Storm Dennis yn sylweddol, gyda dros 1,000 tunnell o falurion a dŵr angen cael eu symud. Roedd seilwaith allweddol y safle o dan y dŵr yn llwyr.

“Serch hynny, rydyn ni wedi achub ar y cyfle yma i wella’r Lido ymhellach, yn ogystal â chyflawni gwaith atgyweirio hanfodol. Rydyn ni wedi prynu cychod badlo a theganau chwythu newydd, yn ogystal ag addasu’r toiledau i greu darpariadth ‘Changing Place’ newydd ar gyfer ein cwsmeriaid.”

%d bloggers like this: