04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor RCT yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Dwristiaeth Ddrafft

CYN bo hir, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus sy’n gwahodd trigolion, busnesau ac ymwelwyr i ddweud eu dweud ar Strategaeth Dwristiaeth Ddrafft y Cyngor, a hynny er mwyn helpu i lywio’r ffordd rydyn ni’n hyrwyddo ac yn gwella potensial Rhondda Cynon Taf fel canolfan i ymwelwyr.

Mae gyda ni arlwy amrywiol ac unigryw i ymwelwyr eisoes, gydag atyniadau poblogaidd megis Lido Cenedlaethol Cymru – Lido Ponty, y Bathdy Brenhinol, Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda a Distyllfa Penderyn eisoes yn denu miloedd o ymwelwyr i’r fwrdeistref sirol bob blwyddyn cyn y bu’n rhaid iddyn nhw gau oherwydd y pandemig.

Bellach, mae cyfyngiadau COVID-19 Llywodraeth Cymru wedi’u llacio rhywfaint ac mae’r sector twristiaeth a lletygarwch yn dechrau ailagor. Yn ogystal â hynny, mae agweddau pobl tuag at deithio wedi newid, gyda llawer yn awyddus i drefnu gwyliau yn y DU yn hytrach na mynd dramor. O ganlyniad i hyn oll, mae Rhondda Cynon Taf mewn sefyllfa wych i ddod yn gyrchfan wyliau boblogaidd.

Mae disgwyl i’r arlwy cyfredol gael ei ategu gan nifer o atyniadau newydd cyffrous – gan gynnwys Parc Beicio Disgyrchiant ym Mharc Gwledig Cwm Dâr a’r hir-ddisgwyliedig Zip World Tower. Mae hyn yn golygu bod rhagor o botensial fyth gan Rondda Cynon Taf i ddod yn ardal y mae pobl yn teimlo bod rhaid iddyn nhw ymweld â hi.

Er mwyn cyflawni’r nod yma, llunion ni Strategaeth Dwristiaeth Rhondda Cynon Taf ac rydyn ni’n gwahodd trigolion lleol, y rhai sy’n gweithio yn Rhondda Cynon Taf, perchnogion busnes ac ymwelwyr i ddweud eu dweud drwy’r arolwg yma a fydd ar gael o ddydd Llun 17 Mai, pan fydd yr ymgynghoriad yn dechrau.

Bydd eich barn yn helpu’r Cyngor i ffurfioli ei Strategaeth Dwristiaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf, a fydd yn helpu i lywio’r economi i ymwelwyr ac yn helpu’r Cyngor i gyflawni ei uchelgeisiau ar gyfer y sir.

Mae’r arolwg ar agor o ddydd Llun 17 Mai hyd at ddydd Llun 14 Mehefin 2021. I gymryd rhan yn yr arolwg, cliciwch ar y ddolen yma.

Meddai’r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu, a Thai:

“Mae’r diwydiant twristiaeth wedi cael ei daro’n arbennig o galed gan effeithiau’r pandemig, ac roedd angen i atyniadau dan do ac awyr agored gau am gyfnodau hir dros y deuddeg mis diwethaf er mwyn cefnogi’r ymdrechion cenedlaethol i ostwng cyfraddau COVID-19 a diogelu iechyd y cyhoedd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau yr wythnos yma y gall lletygarwch dan do ddechrau ailagor o ddydd Llun 17 Mai, a hynny ar ôl cynnydd parhaus o ran lleihau nifer yr achosion o COVID-19 ledled Cymru, a dyma newyddion i’w croesawu.

“Wrth i ni symud ymhellach tuag at weld rhagor o normalrwydd yn ein bywydau, mae’n hanfodol ein bod ni’n ceisio manteisio i’r eithaf ar yr arlwy unigryw sydd gyda ni yma yn Rhondda Cynon Taf – a’i ddefnyddio fel sbardun allweddol ar gyfer twf economaidd lleol.

“Er mwyn cefnogi hyn, rydyn ni’n gofyn i drigolion, ymwelwyr a busnesau lenwi’r arolwg byr yma, a rhoi eu barn ar Strategaeth Dwristiaeth Ddrafft y Cyngor, fel bod modd cyflawni ein huchelgais o ddod yn un o brif gyrchfannau’r DU o ran profiadau i ymwelwyr.”

%d bloggers like this: