03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyngor Sir Gâr yn llongyfarch myfyrwyr TGAU

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llongyfarch yr holl ddisgyblion TGAU am eu gwaith caled a’u penderfyniad mewn blwyddyn sydd wedi bod yn eithriadol o heriol.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant, y dylai pawb sydd wedi derbyn canlyniadau eu harholiadau fod yn falch o’r hyn maent wedi’i gyflawni.

Mae dysgwyr yng Nghymru wedi cael graddau sy’n seiliedig ar raddau’r ganolfan asesu, sy’n seiliedig ar farn broffesiynol athrawon ac sydd wedi’u cymeradwyo gan Bennaeth y Ganolfan.

Oherwydd pandemig Covid-19 yn 2020, nid oedd modd i fyfyrwyr sefyll yr arholiadau terfynol ac yn lle hynny mae eu graddau’n adlewyrchu’r canlyniadau a ragwelwyd sy’n seiliedig ar waith cwrs a chanlyniadau arholiadau ffug.

Mae’r canlyniadau dros dro a ryddhawyd gan Gymwysterau Cymru yn dangos bod ychydig dros chwarter (25.9%) o fyfyrwyr TGAU wedi ennill graddau A*-A yn genedlaethol.

Mae bron i dri chwarter (74.5%) wedi derbyn graddau A*-C, ac yn gyffredinol, mae 99.6% o fyfyrwyr wedi pasio eu TGAU gyda graddau A*-G.

Dywedodd y Cynghorydd Davies:

“Dylai’n holl fyfyrwyr fod yn falch o’r hyn y maent wedi’i gyflawni, ac ar ran y Cyngor hoffwn eu llongyfarch a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

“Bu eleni yn flwyddyn na welwyd ei thebyg o’r blaen ac mae wedi cyflwyno heriau eithriadol i’n myfyrwyr a’n hathrawon. Hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion anhygoel a’u cadernid personol ac am y cymorth gwych y mae staff, myfyrwyr a’u teuluoedd wedi dangos i’w gilydd.

“Ni ellir amau ymdrech, ymroddiad a chryfder cymeriad y grŵp eleni ac mae eu canlyniadau’n gwbl haeddiannol.”

%d bloggers like this: