MAE Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod yn gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion am flwyddyn.
Cymerwyd y penderfyniad gan Fwrdd Rheoli’r sefydliad yn dilyn nifer o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi penderfyniad yr Eisteddfod Genedlaethol i ohirio Eisteddfod Ceredigion am flwyddyn arall tan 2022.
Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg:
“Rydym yn cefnogi’r Eisteddfod ar eu penderfyniad anodd i ohirio’r Eisteddfod am flwyddyn arall. Mae’n chwith iawn peidio bod yn rhan o fwrlwm y paratoi a mynychu’r Eisteddfod ar wythnos cyntaf mis Awst eleni eto. Er hyn, mae’n rhaid sicrhau iechyd a diogelwch pawb. Dim ar chwarae bach mae trefnu Eisteddfod nac ychwaith paratoi i gystadlu a mynychu. Gyda’r holl gynllunio sydd angen ei wneud, dyw hi ddim yn ymarferol bosib i’w cynnal. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Geredigion pan mae hi’n ddiogel i wneud hynny.
Diolchwn i’r Eisteddfod a’r holl wirfoddolwyr am eu gwaith hyd yn hyn. Edrychwn ymlaen yn eiddgar i groesawu pawb i Geredigion yn 2022.”
Mae manylion ymarferol y penderfyniad i ohirio’r Eisteddfod eleni wedi’u cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod.
More Stories
Cyhoeddi ‘Cymru’r Dyfodol y cynllun cenedlaethol 2040’
Cyffro a gwenu wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol
Croeso i gefnogaeth Llywodraeth Cymru tuag at ehangu melin bapur Maesteg